Daf Prys sydd wedi bod yn ceisio peidio llwgu wrth chwarae’i gêm ddiweddaraf …

Gwych. Fi wedi bod yn aros am gêm fel hyn ers sbel. Gêm y pethau bychain. Gêm y caib a rhaw. Gêm fi wir yn mynd yn hollol obsessed efo. Ond rewind bach.

Nod y gêm ‘Don’t Starve’ yw peidio llwgu. Wel, ‘ie’, medde chi. Mae’ch cymeriad yn cael ei drawsblannu i fyd arall wrth gyfarfod â bwgan o’r enw Maxwell. Yn y byd newydd yma chi’n cychwyn â dim byd yn eich poced o gwbl, a dim math o gyfeiriadau o beth i neud nesaf.

Ond mae dau beth yn amlwg. Mae cylchdroad dydd a nos (sy’n ffafriol iawn mewn cynllunio gêm dyddiau yma) a hefyd pob math o ddeunydd o’ch cwmpas i’w gasglu. Moron yn y tir, ffrwyth yn y gwrych a phob math o greaduriaid yn crwydro’r gwastatir oddi draw.

Ond ‘na fe. Dyna’i gyd chi’n cael. A rhaid dysgu yn gyflym iawn.

Trailer o Don’t Starve:

Marw ar y noson gyntaf!

Pan nes i chwarae am y tro cyntaf nes i farw’r noswaith gyntaf un gan na wnes i adeiladu tân bach i gadw bwystfilod draw yn y duwch. Gwers galed gynnar a chrafu pen.

Yr ail dro ro’n i’n ymbil am fwyd a chael fy ngorfodi i ymosod a’r nyth cacwn. Roedd gen i deimlad ei fod yn syniad gwael a gwir bob gair, doedd hwnna ddim yn syniad da iawn.

Trydydd tro nes i golli fy nghof yn llwyr, yn llythrennol, gan i mi beidio cysgu am 100 diwrnod. Wel dylse nhw rhoi hwnna yn y teitl hefyd de! ‘Don’t Go Nuts’, ‘Don’t Wander Marshland and Accidentally Provoke a Tentacle!’ ‘Don’t Think that a Penguin is Going to be an Easy Supper!

Yn amlwg, mae llawer o bethau i’w cydlynu yma. Mae rhaid edrych ar ôl eich meddwl, eich bol a’ch iechyd. Hyn oll gan gofio cadw nifer o nwyddau ar gyfer amddiffyn eich hun a datblygu’r deunyddiau y medrwch greu.

Teimlo fel yr hen dric o droi nifer o blatiau ar bolion, ond fod y platiau yn anweledig, a’r polion wedi neud o lafa. A bod dim dwylo da chi. Na unrhyw fath o syniad bod chi fod i gadw’r platiau i droi. A bod dim syniad sut ma’ disgyrchiant yn gweithio. A bod dim modd amgyffred y byd o’ch cwmpas achos bod chi erioed wedi datblygu’r sgiliau i oroesi. Ie. Fel’na.

Antur barhaol

Mae’r gêm yn cynnig llawer i’r ‘casglwyr’ yn ein mysg a hefyd i’r rheiny sy’n mwynhau micro-management. Mae ’na dipyn bach o ‘Civ-Rev’ yma, ‘Sim City’ a mymryn o ‘Minecraft’. Os yw OCD yn poenydio arnoch, efallai bod gormod o demtasiwn, a gall hanner awr droi yn noswaith gyfan.

Ond ar ôl dod i ddeall pethau mae cant a mil o weithredoedd i’w hymchwilio a ffurfiau i’w deall ac wedi dipyn o grwydro mae’r teimlad anturus yn dechrau ymbilio, ac mae wastad y teimlad ‘na fod rhywbeth bach arall rownd y cornel. Oce te, dim ond 10 munud bach arall. Gêm y ‘pethau bychain’ wir!

Da – Antur rownd pob cornel; Bron gormod o bethau i’w gwneud a phrofi; Pacing hyfryd.

Drwg – Dim cymorth o gwbl ar y cychwyn!

I ddweud wrth Daf am gael hoe fach o’r gêm gallwch ei drydar ar @dafprys.