Mae elusen sy’n gweithio hefo pobol sy’n dioddef o broblemau alcohol yn dweud ei bod yn pryderu am nifer y bobol 60 oed a throsodd sy’n gor-yfed yng Nghymru.

Yn ôl Alcohol Concern Cymru, mae’r broblem yn un “gudd”, ac mae angen i fwy o waith ymchwil gael ei wneud yn y maes.

Dywed yr elusen nad yw hi mor amlwg pan mae pobl hŷn yn yfed, am ei fod yn broblem sydd fel arfer yn cael ei chysylltu hefo pobol ifanc  a chamymddwyn cymdeithasol.

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2013, cafodd 342 o bobol dros 60 oed eu cyfeirio at arbenigwyr am eu bod yn dioddef o broblemau alcohol – 292 o bobol oedd wedi cael eu cyfeirio’r flwyddyn gynt.

‘Ymdopi hefo newidiadau cymdeithasol’

“Mae angen i waith ymchwili gael ei wneud i ddarganfod beth yw gwir effaith y broblem ymysg bobol hŷn,” meddai llefarydd ar ran Alcohol Concern Cymru.

“Rydym yn meddwl fod pobol hŷn yn troi at alcohol er mwyn ceisio ymdopi hefo newidiadau cymdeithasol – pethau fel colli aelodau o’r teulu neu ffrindiau neu eu hiechyd yn dirywio.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n gweithio i wella triniaeth i bobol dros 50 sy’n camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill.