Mae pennaeth ysgol gynradd yng Nghaerffili wedi anfon llythyr at rieni yn dilyn pryderon bod plant mor ifanc â chwech oed yn ail-greu golygfeydd o gêm fideo ar gyfer oedolion.
Mae disgyblion wedi bod yn chwarae gemau lle maen nhw’n “dynwared golygfeydd o drais a chyfathrach rywiol” yn ogystal â thrafod defnyddio cyffuriau, yn ôl Morian Morgan, pennaeth Ysgol Gynradd Coed-y-Brain, yn Llanbradach, Caerffili.
Mae staff yr ysgol yn rhoi’r bai am ymddygiad y plant ar y gêm fideo ar gyfer oedolion Grand Theft Auto lle mae pobl sy’n chwarae’r gêm yn cymryd rôl troseddwyr yn America.
Mae’n debyg bod y gêm ddiweddaraf yn y gyfres, GTA V wedi gwerthu mwy na 32 miliwn o gopïau drwy’r byd.
Mae’r llythyr sydd wedi cael ei anfon at rieni yn dweud bod y plant yn ail-greu golygfeydd o’r gemau sy’n cynnwys “rhegfeydd, cynnal sgyrsiau am weithredoedd rhywiol ac yn dynwared gemau treisgar sy’n arwain at anafiadau.”
‘Nid beirniadaeth o rieni’
Dywedodd Marion Morgan wrth y South Wales Argus bod y llythyr yn ffordd o wneud rhieni’n ymwybodol o effaith y gemau ac mae’n mynnu nad yw’n eu beirniadu.
“Nes i mi fynd ar y we a gweld cynnwys y gêm, roeddwn i dan yr argraff mai dim ond ychydig o regfeydd a saethu oedd yn digwydd ond dwi’n credu y byddai rhai o’r rhieni yn dweud wrthych chi eu bod nhw hefyd wedi bod mor naïf â fi,” meddai wrth y papur newydd.
“Ond mae’n rhaid i mi bwysleisio nad mater o feirniadu’r rhieni yw hyn,” ychwanegodd.