Canolfan hamdden Plas Madoc
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi pleidleisio o blaid cau canolfan hamdden Plas Madoc yn Acrefair.

Mae’n rhaid i Gyngor Sir Wrecsam wneud arbedion o £45 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ac yn ôl y Cynghorydd David Griffiths, mae gwasanaeth hamdden y sir yn costio £1.8 miliwn y flwyddyn i’w cynnal.

Wrth i gynghorwyr drafod dyfodol darpariaeth hamdden y sir bnawn ddoe, fe fu tua 100 o bobl yn protestio tu allan i swyddfeydd y Cyngor yn erbyn y cynllun dadleuol i gau Plas Madoc.

Ac mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd ffordd o achub y ganolfan, gan fod y cyngor llawn eto i bleidleisio dros newidiadau yn y gyllideb.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Cau Byd Dŵr (Waterworld) ac agor cyfleuster newydd – gan gadw Byd Dŵr ar agor tan mae’r ganolfan newydd yn cael ei hagor.
  • Cau campfeydd Ysgol Clywedog a Queensway a’u trosglwyddo i’r cyfleuster newydd fydd yn dod yn lle Byd Dŵr.
  • Trosglwyddo rheolaeth y cyfleusterau hamdden sy’n weddill i Ymddiriedolaeth Hamdden sy’n bodoli eisoes.

Colled o £500,000

Mae’r drafodaeth yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd yn amlinellu’r toriadau sydd angen i’r cyngor eu hystyried.

“Mae ein gwasanaethau hamdden yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl Wrecsam o ran cefnogi iechyd a lles a rhagoriaeth ym myd chwaraeon”, meddai David Griffiths.

“Fodd bynnag, dyma wasanaeth dewisol sy’n costio tua £1.8 miliwn y flwyddyn i’w rhedeg ac yn cynnwys nifer o adeiladau allweddol y bydd angen eu disodli ac yn y cyfamser yn rhedeg ar golled sylweddol.

“Mae Canolfan Hamdden Plas Madoc ar ei ben ei hun yn gwneud colled o fwy na £500,000 y flwyddyn.”