Mae cwpl a gafodd eu harestio ar ôl i ferch 11 mis oed gael ei lladd gan gi, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedd Ava-Jayne Corless yn cysgu mewn tŷ yn Blackburn nos Lun pan ymosododd y daeargi arni. Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon a’r heddlu, bu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Brenhinol Blackburn.
Cafodd y ci, math o ddaeargi sydd wedi eu gwahardd, ei ddifa ar ôl yr ymosodiad. Mae trigolion lleol yn honni eu bod nhw wedi gwneud sawl cwyn i’r heddlu am y ci yn y gorffennol.
Cafodd mam y ferch, Chloe King, 20, a’i phartner Lee Wright, 26, eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.
Mae’r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau Heddlu Sir Gaerhirfryn yn parhau.