Coeden wedi cwympo ar Rhiw Penglais, Aberystwyth. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu
Mae 87,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan heno ar ol i wyntoedd yn hyrddio dros 100mya achosi trafferthion ar draws y wlad.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch, yr un mwyaf difrifol, am wyntoedd o hyd at 100 milltir yr awr yng ngogledd a gorllewin Cymru heddiw.
Mae’r rhybudd coch mewn grym yn Ynys Mon, Gwynedd, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae pobl yn cael eu cynghori i beidio a mentro allan oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol.
Cafodd gwyntoedd o 108mya eu cofnodi yn Aberdaron prynhawn ma, a 91mya yng Nghapel Curig.
Mae 87,000 o gartrefi bellach heb gyflenwad trydan – dywed Western Power Distribution bod 42,000 o gartrefi heb drydan yn y de a’r gorllewin, ac yn y gogledd, dywed Scottish Power bod 45,000 heb gyflenwad trydan.
Mae nifer o goed hefyd wedi cwympo gan rwystro’r ffyrdd mewn mannau.
Mae Pont Britannia wedi cau ar ol i lori droi drosodd ac mae Pont Menai ar gau i loriau. Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi heno bod gyrwr lori wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn cynnal cyfarfod brys prynhawn ma i drafod eu cynlluniau ar gyfer ymateb i unrhyw drafferthion.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu’r Gogledd: “Mae’n debyg y bydd y tywydd yn gwaethygu dros yr oriau nesaf gyda’r amodau yn gwaethygu.
“Rydym yn cynghori pawb i aros yn eu cartrefi gan fod nifer o’r ffyrdd ar gau yn yr ardaloedd arfordirol o ganlyniad i goed ac ati yn disgyn. Peidiwch â theithio oni bai bod hynny’n wirioneddol angenrheidiol.”
Gwasanaethau trên wedi’u canslo
Mae gwasanaethau trên a fferi wedi’u canslo hefyd. Ni fydd gwasanaethau rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, Sir Benfro, Aberdaugleddau a Harbwr Abergwaun yn rhedeg ar ôl 2 o’r gloch y pnawn.
Mae trenau o Fachynlleth i’r Bermo ac Aberystwyth hefyd wedi cael eu canslo a’r gwasanaethau trên rhwng Bangor a Chaergybi wedi eu gohirio.
Yng ngorsaf Crewe mae’r orsaf wedi’i chau yn llwyr ar ol i ran o’r to gael ei ddifrodi gan y gwyntoedd cyrfion.
Mae’r gwasanaethau fferi o Gaergybi ac Abergwaun hefyd wedi’u canslo.
Cafodd disgyblion ysgolion yng ngorllewin Cymru a Môn eu hanfon adref oherwydd y tywydd garw yn ystod y prynhawn ac fe fydd ambell un ynghau eto fory oherwydd difrod i adeiladau.