Llifogydd yng Ngwlad yr Haf
Fe fydd aelodau o bwyllgor Cobra yn cyfarfod eto heddiw, ar ôl i David Cameron ddweud “nad yw arian yn ystyriaeth” wrth geisio rhoi cymorth i gymunedau sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd diweddar.
Cafodd cyfarfod arall ei gynnal neithiwr, ac fe fydd aelodau pwyllgor cabinet yn cyfarfod yfory er mwyn trafod y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud.
Ond mae’r Prif Weinidog yn rhybuddio y gall “pethau waethygu cyn y bydden nhw’n gwella”, gyda channoedd o rybuddion llifogydd difrifol dal mewn grym ar draws Lloegr.
Nid yw pethau’n debygol o ostegi yn y dyddiau nesaf chwaith, gyda mwy o law trwm a thywydd garw ar y ffordd tan ddiwedd yr wythnos.
Mae rhybuddion llifogydd, sy’n peryglu bywyd, yn dal mewn grym mewn rhannau o’r afon Tafwys yn ne Lloegr ac mae’r fyddin yn dal i roi cymorth i bobol yng Ngwlad yr Haf.
Cyhoeddodd David Cameron yr wythnos diwethaf y bydd £100 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn delio gydag effeithiau’r llifogydd. Fe fydd £10 miliwn hefyd yn cael ei roi i helpu ffermwyr.