Mark Carney
Mae disgwyl i Lywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney newid ei bolisi ar gyfraddau llog heddiw, wrth i lefel diweithdra ostwng yn sylweddol.

Fe gyfaddefodd Mark Carney mewn anerchiad i arweinwyr busnes yn Davos fis diwethaf bod angen newid y polisi sy’n cysylltu cyfraddau llog a diweithdra – gan awgrymu y byddai hynny’n digwydd wrth gyhoeddi’r ffigurau chwyddiant chwarterol heddiw.

Roedd y banc wedi dweud na fyddai’n ystyried codi cyfraddau llog o’i lefel isaf o 0.5% nes bod nifer y rhai sy’n ddi-waith wedi gostwng i 7%, ond mae hynny’n edrych yn debygol o ddigwydd yn llawer cynt na’r disgwyl.