Mark Drakeford
Mae prosiect gan Lywodraeth Cymru wedi helpu 1,700 o gyn gamddefnyddwyr sylweddau i gael gwaith ac addysg bellach.

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf wedi dangos bod prosiect Mentora Cymheiriaid wedi helpu 862 o gyn-gamddefnyddwyr sylweddau i gael gwaith a 923 eraill i gael mynediad i addysg bellach.

Yn ogystal, dangosodd gwerthusiad o’r prosiect gan Brifysgol De Cymru fod y prosiect wedi bodloni bron pob un o’i dargedau.

Mentora Cymheiriaid Cymru

Crëwyd prosiect Mentora Cymheiriaid Cymru i helpu pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau i gael gwaith neu fynediad i addysg bellach, gyda chymorth mentoriaid cymheiriaid – gyda llawer o’r mentoriaid wedi dioddef eu hunain o broblemau gyda chyffuriau neu alcohol.

Mae’r prosiect, a ddechreuodd yn 2009, yn cael £20 miliwn o arian gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan chwe asiantaeth trydydd sector ar draws Cymru ac mae wedi helpu 9,627 o unigolion.

“Calonogol”

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Mark Drakeford bod y llwyddiant yn “galonogol”.

Meddai: “Mae’n dyst i waith caled mentoriaid cymheiriaid y chwe darparwr ac yn esiampl wych o sut gall gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth alluogi pobl i newid cwrs eu bywyd.

“Mae’r dull arloesol hwn o ddarparu gwasanaethau yn dilyn triniaeth yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’, ac rydyn ni wedi cael gwybodaeth werthfawr am yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i helpu pobl i wneud newidiadau positif i’w ffordd o fyw.”

Cefnogaeth a chroeso

Dywedodd Rachel, un o’r rhai a fu’n cymryd rhan yn y prosiect:

“Y peth gorau yw’r gefnogaeth a’r croeso rydych yn ei gael. Rydych yn teimlo nad ydych ar eich pen eich hun.

“ Rhoddodd y profiad mentora cymheiriaid yr hyder imi fynd i’r coleg a chael swydd fel gweithiwr cymorth. Ni fyddwn wedi gallu gwneud hynny heb y cymorth, yr anogaeth a’r sgiliau bywyd a gefais gan y bobl arbennig yma.”