Christine Chapman
Fe fydd ymgyrchwyr yn erbyn taro plant yn rhoi cynnig arall ar gael gwaharddiad trwy’r Cynulliad o fewn y misoedd nesa’.

Maen nhw wedi awgrymu y gallen nhw ychwanegu cymal at fesur yn ymwneud â thrais yn y cartref, ar ôl methu gydag ymgais neithiwr.

Roedd yna fwyafrif o 39-14 yn erbyn ymgais i wahardd taro yn rhan o fesur am ofal cymdeithasol ond mae cefnogwyr yn dweud bod y pwnc yn fyw o hyd.

‘Rhagor o gyfleoedd’

Roedd llawer o aelodau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn gwelliant i wahardd taro rhag i’r brif ddeddfwriaeth gael ei dal yn ôl.

Ond fe addawodd y Llywodraeth y byddai yna gyfleoedd eraill i gael gwaharddiad ac, yn ôl Aelod Cynulliad Cwm Cynon, Christine Chapman, fe fyddan nhw’n manteisio ar hynny.

Fe fyddan nhw’n ystyried cynnig gwelliant i’r Bil Trais Domestig, meddai, gan ddweud ei bod yn hyderus y byddai hynny’n llwyddo.

Mewn pleidleisiau rhydd ar ddiwedd dadleuon am y pwnc yn y gorffennol, mae mwyafrif o Aelodau Cynulliad wedi cefnogi.

‘Cefnogaeth fawr’

Fe gyfaddefodd Christine Chapman nad oedd hithau wedi pleidleisio o blaid neithiwr, rhag ofn i hynny arafu’r mesur mwy.

“Dw i eisiau i hyn ddigwydd,” meddai ar Radio Wales. “Fe fydd cyfleoedd eraill i gael yr amddiffynfa sydd ei angen ar blant Cymru.

“Does dim amheuaeth fod yna gefnogaeth fawr i hyn – y cyfan yr ’yn ni’n gofyn amdano yw i blant gael yr un amddiffynfa ag oedolion.”

Y ddadl

Roedd y gwelliant ddoe wedi ei gynnig gan AC Plaid Cymru tros Gaerffili, Lindsay Whittle, sydd wedi ymgyrchu’n gyson o blaid gwaharddiad.

Ymhlith y cyfraniadau, fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, mai cael ei tharo gan ei mam oedd un o’r rhesymau pam yr aeth yn wleidydd.

Yn ôl Christine Chapman, roedd dadleuon rhai o’i chyd-aelodau o blaid taro yn “druenus”.