Fe fydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn cynnal dadl yn y Cynulliad heddiw a fydd yn galw am becyn o fesurau i fynd i’r afael a’r argyfwng cyflenwad tai.

Mae’r mesurau maen nhw’n galw amdanyn nhw yn cynnwys toriad yn y dreth stamp i roi hwb i’r farchnad dai yng Nghymru.

Maen nhw hefyd eisiau adeiladu mwy o gartrefi a gwneud defnydd o gartrefi gwag er mwyn hybu’r farchnad dai.

Wythnos diwethaf, addawodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw’n diddymu’r dreth stamp ar eiddo sydd werth hyd at £250,000 unwaith y bydd y pŵer i amrywio’r dreth stamp yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae pobl yn talu treth stamp wrth brynu eiddo. Mae’r dreth stamp yn werth 1% o werth yr eiddo hyd at £250,000. Gall hyn ychwanegu cymaint â £2,500 at y pris prynu.

Cafodd 13,000 o dai yn y band treth stamp £125,000 i £250,000 eu gwerthu yng Nghymru’r llynedd gyda bil treth stamp ar gyfartaledd yn £1,600.

‘Lleihau biwrocratiaeth’

Dywedodd Mark Isherwood AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau a Thai, bod y Ceidwadwyr eisiau helpu teuluoedd i brynu eu cartref cyntaf.

Meddai: “Yn wahanol i Lywodraeth Lafur sydd wedi gwneud dim dros y 15 mlynedd diwethaf tra bod gostyngiad enfawr wedi bod mewn adeiladu tai, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i gymryd camau cadarnhaol.

“Cafodd llai o gartrefi eu hadeiladu’r llynedd nag ar unrhyw adeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Rydym yn awyddus i leihau biwrocratiaeth er mwyn caniatáu i’r diwydiant adeiladu ffynnu ac adeiladu mwy o gartrefi unwaith eto.

“Byddai ein pecyn o bolisïau i fynd i’r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur trwy adeiladu mwy o gartrefi, torri treth stamp a gwneud defnydd o gartrefi gwag yn hwb i’r farchnad dai yng Nghymru.”