Ffair Tafwyl y llynedd
Yn dilyn ansicrwydd am ei dyfodol yr amser yma y llynedd, mae Tafwyl, gŵyl gymuned Cymraeg fwyaf Cymru wedi ei sicrhau eto eleni.

Daw’r cyhoeddiad wrth nodi 150 o ddyddiau tan Ffair Agoriadol Tafwyl 2014 sydd yn cael ei chynnal yng ngerddi Castell Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 12 Gorffennaf.

Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi heddiw y bydd yr ŵyl eleni’n fwy nac erioed o’r blaen gyda rhagor o weithgareddau a llwyfannau newydd yn dilyn sicrhau nawdd ychwanegol.

Llwyddodd Tafwyl 2013 i ddenu 14,000 o ymwelwyr y llynedd – traean yn fwy  na’r flwyddyn flaenorol.


Matthew Rhys, llysgennad Tafwyl
Llysgenhadon

Bydd yr actor Hollywood o Gaerdydd Matthew Rhys yn llysgennad i’r ŵyl unwaith yn rhagor ac mae tri arall yn ymuno ag ef i gefnogi Tafwyl eleni fel llysgenhadon – y cyflwynydd teledu Alex Jones, y chwaraewr rygbi Rhys Patchell a’r DJ Huw Stephens.

Am y tro cyntaf erioed mae’r ŵyl eleni wedi derbyn nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect cyhoeddus arbennig yn ogystal â gan Gyngor y Celfyddydau am lwyfan newydd sbon y tu allan i furiau’r castell i ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r ŵyl.

Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru

Ar ddechrau 2013, collodd Tafwyl ei nawdd gan y cyngor lleol. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £20,000 i Tafwyl ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud toriadau gwariant.

Eleni eto, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi nawdd o £20,000 tra bod Cyngor Caerdydd wedi cyfrannu defnydd Castell Caerdydd fel lleoliad i ffair yr ŵyl.

Dywedodd Carwyn Jones:  “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio yn y gymuned. Mae sicrhau cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg tu allan i’r dosbarth a’r gweithle mewn digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol yn hanfodol i gyflawni’r nod hon.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r ŵyl eto eleni gyda nawdd o £20,000. Mae Tafwyl yn ŵyl ddiwylliannol unigryw sydd wedi ehangu o flwyddyn i  flwyddyn ac sydd yn amhrisiadwy o ran hyrwyddo’r Gymraeg yn y ddinas.”

Mwy o Noddwyr

Yn ôl y trefnwyr, Menter Caerdydd, bydd mwy o weithgareddau eleni yn y ffair a thros gyfnod yr ŵyl ar ei hyd yn sgil denu noddwyr ychwanegol.

“Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Tafwyl yn tyfu ac ehangu – diolch i’r gefnogaeth gref yn sgil llwyddiant yr ŵyl y llynedd.

“Mae’r gefnogaeth hynny gan ein llysgenhadon, Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a’n noddwyr – yn ogystal â’r cyhoedd – wedi galluogi’r ŵyl i dyfu a chynnig ystod gyffrous o weithgareddau i bobl o bob oed. Hyd yn hyn mae ein cyfanswm incwm drwy ffynonellau grant wedi cynyddu o 29% a chyllid noddwyr wedi cynyddu o 110% o’i gymharu â’r llynedd. Mae cael Prifysgol Caerdydd fel Prif Noddwr yn hwb enfawr a chyffrous hefyd yw cael Partner Gwesty am y tro cyntaf sef Park Plaza.”