Fe fydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, CILT Cymru, yn derbyn “gostyngiad sylweddol” yn y cyllid mae’n ei gael gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol nesa.
Bydd y cyllid yn cael ei gwtogi o £600,000 i £200,000 ac yn ôl y ganolfan, mae’n “ergyd arall i ddysgu ieithoedd tramor yng Nghymru”, ar ôl i Lywodraeth Cymru fwriadu cael gwared â’r gofynion ieithyddol yn y Fagloriaeth Gymreig, sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr 14-19 oed.
Dywed CILT Cymru mewn datganiad ar ei wefan: “Ar hyn o bryd, mae CILT Cymru yn adolygu’r effaith y bydd y cyfyngiadau cyllideb newydd yn ei chael ar ei waith yn y dyfodol a bydd yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig ac ymrwymedig i ddysgu ieithoedd modern fel rhan o addysg gynradd ac uwchradd.
“Bydd CILT Cymru yn ceisio meithrin dealltwriaeth newydd o safbwynt Llywodraeth Cymru ar addysgu ieithoedd modern yng Nghymru, gan gynnwys effaith y diwygiadau arfaethedig i Fagloriaeth Cymru. Mae hefyd yn edrych ymlaen at ailgadarnhau gyda Llywodraeth Cymru y bydd y prosiect ‘llythrennedd triphlyg’ yn parhau i gael ei hyrwyddo.”
‘Mwy o niwed’
Dangosodd ffigyrau fod sefyllfa dysgu ieithoedd tramor yng Nghymru yn wael o’i gymharu â gweddill Prydain, gyda nifer y rhai sy’n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion a cholegau Addysg Uwch wedi haneru dros y saith mlynedd ddiwethaf.
Un mewn pum disgybl oedd yn dewis astudio iaith dramor ar gyfer TGAU’r llynedd. Ac roedd nifer y rhai sy’n astudio Lefel A yn “hyd yn oed gwaeth” – gyda 16% yn llai yn dewis astudio ieithoedd.
“Rŵan, fe fydd hyd yn oed mwy o niwed yn cael ei wneud i ddysgu ieithoedd tramor yng Nghymru,” meddai CILT Cymru.
‘Dim llawer o werth’
Wrth drafod y dewis o gael gwared a modiwl ieithyddol y Bac, dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis “nad oedd llawer o werth i’r modiwl” a bod disgyblion wedi penderfynu peidio â dysgu ieithoedd tramor erbyn iddyn nhw ddechrau’r Bac beth bynnag.
Ychwanegodd y Llywodraeth mai penderfyniad yn wyneb toriadau mawr ydyw, a bod angen dull newydd o ddysgu ieithoedd tramor.