Barack Obama
Mae Arlywydd America Barack Obama wedi croesawu Arlywydd Ffrainc Francois Hollande i’r Tŷ Gwyn gan bwysleisio’r berthynas glos rhwng y ddwy wlad.
Daw’r ymweliad wrth i’r dyfalu barhau ynglŷn â phroblemau ym mywyd preifat Francois Hollande.
Yn dilyn seremoni i’w gyfarch i’r Tŷ Gwyn fe fu’r ddau arweinydd yn trafod Iran, Syria a’r cynnydd mewn grwpiau eithafol yng ngogledd Affrica.
Yn ddiweddarach fe fydd cinio mawreddog yn cael ei gynnal gyda 300 o westeion.
Ym mis Ionawr, roedd perthynas Francois Hollande gyda’i gariad Valerie Trierweiler wedi dod i ben yn dilyn adroddiadau ei fod yn cael perthynas gydag actores.
Nid yw Hollande wedi mynd a gwestai gydag o i Washington ar gyfer yr ymweliad.