Canolfan hamdden Plas Madoc
Mae tua 100 o bobl yn protestio tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Wrecsam heddiw wrth i gynghorwyr drafod dyfodol darpariaeth hamdden y sir.
Mae disgwyl i Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wneud penderfyniad ar y mater heddiw.
Mae’r drafodaeth yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd yn amlinellu nifer o argymhellion i’r cyngor eu hystyried.
Mae angen i Gyngor Sir Wrecsam wneud arbedion o £45 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ac yn ôl y Cyng David Griffiths, mae gwasanaeth hamdden y sir yn costio £1.8 miliwn y flwyddyn i’w cynnal.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
- Cau Canolfan Hamdden Plas Madoc yn Acrefair, a pheidio adeiladu canolfan hamdden newydd yn ei le.
- Cau Byd Dŵr (Waterworld) ac agor cyfleuster newydd – gan gadw Byd Dŵr ar agor tan mae’r ganolfan newydd yn cael ei hagor.
- Cau campfeydd Ysgol Clywedog a Queensway a’u trosglwyddo i’r cyfleuster newydd fydd yn dod yn lle Byd Dŵr.
- Trosglwyddo rheolaeth y cyfleusterau hamdden sy’n weddill i Ymddiriedolaeth Hamdden sy’n bodoli eisoes.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion yr Adolygiad Hamdden a gynhaliwyd ar ran y Cyngor gan yr Ymgynghoriaeth Chwaraeon.
Fe wnaeth yr ymgynghoriad ddenu 2,000 o sylwadau gan y cyhoedd.
‘Colled sylweddol’
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths: “Mae ein gwasanaethau hamdden yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl Wrecsam o ran cefnogi iechyd a lles a rhagoriaeth ym myd chwaraeon.
“Fodd bynnag, dyma wasanaeth dewisol sy’n costio tua £1.8 miliwn y flwyddyn i’w rhedeg ac yn cynnwys nifer o adeiladau allweddol y bydd angen eu disodli ac yn y cyfamser yn rhedeg ar golled sylweddol.
“Mae Canolfan Hamdden Plas Madoc ar ei ben ei hun yn gwneud colled o fwy na £500k y flwyddyn.
“Mae’r cyngor yn gorfod dod o hyd i arbedion gwerth o leiaf £45m dros y pum mlynedd nesaf ac yr ydym am sicrhau bod pobl Wrecsam yn parhau i gael y cyfle i gael mynediad at gyfleusterau hamdden.
“Mae’n rhaid i’r aelodau gymryd penderfyniad anodd er mwyn gwneud arbedion angenrheidiol tra hefyd ceisio sicrhau dyfodol tymor hir i wasanaeth hamdden lai yn y sir.”