Mae gwaith wedi dechrau ar droi hen eglwys yng Ngogledd Cymru yn ganolfan ymwelwyr newydd gwerth £1 miliwn.

Bydd Byd Mari Jones yn cael ei adeiladu ar leoliad Eglwys Beuno Sant yn Llanycil, y Bala. Roedd yr eglwys yn fan addoli am dros 1,500 o flynyddoedd nes i Gymdeithas y Beibl brynu’r adeilad a’r cae cyfagos yn 2009.

Mae’r eglwys yn bwysig i Gristnogion yng Nghymru oherwydd ei fod yn gysylltiedig â stori Mari Jones. Yn y flwyddyn 1800, cerddodd Mari Jones, a oedd yn 15 mlwydd oed, 25 milltir yn droednoeth o Lanfihangel-y-pennant, ar draws y mynyddoedd i’r Bala i gael Beibl gan y Parchedig Thomas Charles.

Roedd Mari wedi cynilo am chwe blynedd i brynu un ac roedd Thomas Charles wedi’i gyffwrdd gymaint gan ei phenderfyniad nes iddo helpu i sefydlu Cymdeithas y Beibl bedair blynedd yn ddiweddarach.

Dysgu am effaith y Beibl

Mae Thomas Charles hefyd wedi cael ei gladdu ym  mynwent Llanycil.

Bydd y ganolfan newydd yn adrodd stori Mari Jones a Thomas Charles a bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am effaith y Beibl yng Nghymru ac yng ngweddill y byd.

Meddai Dorothi Evans, Maer y Bala: “Mae hyn yn newyddion gwych. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael canolfan ymwelwyr yma. Rydym wedi cael ein magu gyda stori Mari Jones a Thomas Charles ond mae cymaint sydd heb glywed amdanyn nhw.

“Ond wrth ddysgu mwy am y bobl ryfeddol yma, a dysgu am hanes Cymdeithas y Beibl, bydd llawer o bobl leol yn rhyfeddu.”

Mae disgwyl i’r ganolfan ymwelwyr newydd agor yn hwyrach eleni i gyd-fynd â dau gan mlwyddiant marw Thomas Charles.