Pa gyfrwng sy’n cynnig y profiad cynhwysfawr orau, ffilmiau neu gemau cyfrifiadur? Mae’r ateb yn un syml y dyddiau yma, yn ôl Daf Prys …

Mae gemau cyfrifiadur yn well na ffilmiau. Mae hwn yn amlwg i fi nawr. Mae ‘Mass Effect’ yn well na Star Wars, ‘Skyrim’ yn well na ffilmiau Lord of the Rings ac mae ‘The Last of Us’ yn well nac unrhyw ffilm sombi fedrwch chi enwi. A ‘Fallout 3’ yn well na phopeth arall.

Adolygiad ‘The Last of Us’ gan IGN (anaddas i blant):

Os yw’r uchod yn teimlo fel ymosodiad neu ymdrech i gorddi, nid dyna’r bwriad – felly gadewch i fi ymhelaethu. Ffilm yw’r broses o osod profiad gweledol a clywedol o’ch blaen. (Gosod yw’r gair pwysig fan yna.)

Mae’r gwylwyr yn derbyn lluniau a synau mewn cyfres dros gyfnod penodedig sydd, megis defod, yn cyflwyno’r gwaith cyflawn. (Derbyn yw’r gair pwysig y tro hwn.)

Nid yw’r profiad hwn yn newid (ar wahân i edits gwahanol, ond ffilm wahanol yw honna wedyn). Y ffilm chi’n gwylio yn 2010 yw’r union ffilm chi’n gwylio yn 2014. Yr unig beth sy’n newid yw chi, neu’ch gallu i ddehongli’r cyfanwaith mewn ffurf wahanol.

Does dim modd archwilio digwyddiadau ar yr ymylon a does dim modd agor drysau sydd ar gau, oni bai eich bod yn defnyddio’ch dychymyg, ac os yw hynny’n digwydd, man a man i chi ddarllen y llyfr. Dim ond yr ‘auteur’ sy’n gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan: ‘Edrychwch ar hwn’, ‘gwrandewch yma’, ‘mwynhewch y fenyw/dyn noeth yma’.

Profiadau ehangach y gêm

Pan mae person yn profi gêm, er bod y byd wedi ei osod ar eich cyfer, chi sy’n agor y drws, a chi sy’n fframio’r olygfa. Mae’r naratif yn cael ei lywio gan eich gweithredoedd. Pan mae person yn chwarae gêm yn 2010, wnewch chi ddim chwarae’r un gêm yn 2014, 2015 na 2016.

Mi wnes dipyn o ymchwil i ddal i fyny efo theori ffilm ers diflasu ar y peth yn y 2000au cynnar: mae modd dyfynnu Žižek, Reinhardt a Kermode, ond mae’r rhain yn bellach i ffwrdd o’ch profiad chi o wylio ffilm nag unrhyw beth arall. Eich llygaid chi sy’n gwylio, eich clustiau chi sy’n gwrando.

Mae anthropoleg y theatr, ar y llaw arall, yn dangos i ni fod cyfathrebu yn teithio mewn dau gyfeiriad, ar yr un pryd. Mewnbwn ac allbwn yn bodoli yn unffurf. (‘Da ni gyd wedi gweld grŵp o ferched yn sgwrsio ‘run pryd, sori ferched, cheap dig).

Dwi’n awgrymu fod gemau cyfrifiadurol yn agosach i theatr na ffilm oherwydd y gallu unigryw yma ym maes adloniant. Y gallu, i’r rheiny sy’n cymryd rhan, i gyfathrebu yn unffurf ac yn unswydd i’r ddau gyfeiriad, ar yr un pryd, rhwng y pedwar wal.

Mwy o amser … a mwy o benderfyniadau

Mae agwedd arall sy’n cryfhau’r syniad fod gemau yn well na ffilm, sef yr amser mae’n treulio yn ei gwmni. Mae gemau wastad wedi para’n hirach na ffilm ac mae hyn yn golygu fod modd adeiladu a lliwio cymeriadau yn llawnach.

Y mwya’ o amser chi’n treulio yng nghwmni unrhyw un, boed yn ffuglennol neu’n gnawd, y mwya’ mae person yn dod i nabod y cymeriad neu’r byd oddi cwmpas.

Mae gemau hefyd yn cynnig adegau yn ystod ei daith pan mae modd ailgyfeirio’r naratif, megis dewis yn y stori i achub un ffrind yn hytrach na’r llall.

Mae ‘The Walking Dead’ a ‘Mass Effect’ wedi dangos sut mae modd gwneud hyn mewn ffordd effeithiol iawn, ble mae trawiad y weithred yn un poenus dros ben – rhywbeth amhosib mewn ffilm.

Meddyliwch, wrth wylio The Matrix, gallech chi wedi dewis y bilsen las yn hytrach na’r un coch, ac wedi osgoi gwylio’r ffilm syrffedus yna.

Oes angen mwy arnoch chi? Oce, iawn.

Mae gemau yn eich gosod chi yn ddwfn yn y profiad, chi yw’r gêm. Chi yw’r protagonist. Mae Tarkovski, Hitchcock, Cuaron a mwy wedi ceisio hwn ond mae diffiniadau pendant sgrin a sedd yn gorfodi’r gwirionedd sef bod un yn edrych, a’r llall yn cyflwyno – gosod a derbyn. Mae sedd a sgrin yn wir am gêm hefyd wrth gwrs ond mae’r profiad o fewnbwn ac allbwn yn dra gwahanol.

Mae gemau cyfrifiadur yn well na ffilmiau. (<- ac atalnod llawn yw hwnna gyda llaw!)

Gallwch anghytuno’n chwyrn â Daf Prys, neu ymuno yn y garwriaeth gemau, drwy drydar ato ar @dafprys.