Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn galw ar bobol i beidio â mynd i’r adran frys yno, oni bai bod gwir angen.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd, mae’r ysbyty wedi bod yn “anarferol o brysur” yn ystod y 48 ddiwethaf ac maen nhw’n annog pobol i gysylltu hefo meddygon teulu neu linell ffon y gwasanaeth iechyd cyn mynd i’r uned frys.

Mae cyfarwyddwr meddygol y Bwrdd Iechyd wedi dweud y dylai cleifion ddisgwyl aros am amser “hir iawn” os fydden nhw’n dod i’r Uned Frys yn yr ysbyty.

Mae’r ddamwain ar draffordd yr M4 bore ma hefyd wedi ychwanegu at y pwysau ar uned frys yr ysbyty.

Gofyn am gefnogaeth

Mae Dr Graham Shortland, cyfarwyddwr meddygol  Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd, yn gofyn am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn gallu canolbwyntio ar y cleifion mwyaf gwael.

“Yn y 48 ddiwethaf, mae ‘na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobol sydd angen gofal.

“Mae’r cleifion fwyaf sâl a bregus yn cael gofal cyn gynted ag sy’n bosib, ond fe fyddwn yn ddiolchgar pe bai pobol yn cadw draw o’r ysbyty os oes ganddyn nhw fân anafiadau neu salwch lle mae posib delio hefo nhw  unai yn y cartref, neu drwy ffonio llinell ffon y gwasanaeth iechyd.

“Fe ddylai cleifion sydd yn dod i’r Uned Frys ddisgwyl amseroedd aros hir iawn.

“Dyw hyn ddim yn neges newydd – rydym yn gofyn i bobol drwy gydol y flwyddyn i ddefnyddio’r uned frys yn synhwyrol.”