Rhun ap Iorwerth
Mae gŵr busnes o Gaer wedi dweud ei fod yn fodlon tynnu’n ôl o’i ymgais i sicrhau hawliau maenorol dros 4,000 o dai ar Ynys Môn, yn dilyn sgwrs gydag Aelod Cynulliad yr ynys Rhun ap Iorwerth.

Roedd tua 800 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhorthaethwy neithiwr i drafod y mater.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi siarad gydag Arglwydd maenor Treffos, Stephen Hayes, cyn y cyfarfod a’i fod wedi dweud wrtho ei fod yn fodlon ildio’i gais am yr hawliau.

“Fe awgrymodd i mi nad oedd eisiau gwthio’r peth,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth y BBC yn y cyfarfod.

“Jyst cyn y cyfarfod fe ddywedodd wrtha i ei fod wedi penderfynu mai digon oedd digon, nad oedd o eisiau parhau gyda’r cais am ei hawliau  bellach.

“Yn y dyddiau nesaf bydd yn rhaid i mi siarad gyda’r Gofrestrfa Dir, a chyda Mr Hayes eto, i sicrhau ei fod wir am ollwng y cais sydd wedi achosi cur pen a phryder i bobl Ynys Môn.”

Hawliau hanesyddol

Cafodd hawliau maenorol eu sefydlu yn y Canol Oesoedd pan rannwyd tir rhwng arglwyddi ffiwdal oedd yn golygu bod ganddynt hawliau hela, pysgota a mwyngloddio.

Roedd cais Stephen Hayes yn ymestyn dros 1,000 o aceri ar draws ardal ddeheuol a dwyreiniol yr ynys, ac mae trigolion yr ardal wedi codi pryderon y gallai hyn greu trafferthion iddynt wrth werthu tai a chael mynediad i forgeisi.

Maen nhw hefyd yn pryderu y gall olygu fod cwmnïau’n medru tyllu am nwy siâl ar dir pobl yr ardal.

Roedd gan arglwyddi’r maenorau tan Hydref 2013 i gofrestru’u hawl i’r tiroedd, ac fe gafodd 4,000 o gartrefi lythyr gan Stephen Hayes yn dweud ei fod wedi cofrestru’i hawl fel Arglwydd maenor Treffos.

Fe gadarnhaodd Rhun ap Iorwerth fod Stephen Hayes wedi dweud wrtho ei fod yn bwriadu ildio’i gais, ond y byddai’n siarad gydag ef eto’n fuan er mwyn cadarnhau y byddai hynny’n digwydd.

Cafodd y mater hefyd ei godi yn San Steffan fis diwethaf gan Aelod Seneddol Ynys Môn Albert Owen, a ddywedodd ei bod hi’n “absẃrd” fod pobl yn gorfod poeni dros hawliau tir mor hynafol.