Llys y Goron Abertawe
Fe fydd y barnwr yn achos llofruddiaeth Joanna Hall yn dechrau crynhoi’r dystiolaeth heddiw.

Cafodd Joanna Elizabeth Hall, 35, o Ddinbych y Pysgod, ei thrywanu 40 o weithiau  mewn ymosodiad arni yn ei fflat ym mis Mawrth y llynedd.

Bu farw yn yr ysbyty 19 diwrnod yn ddiweddarach.

Mae ei chariad Steven Daniel Williams, 30, o Heol Marsh, Dinbych y Pysgod yn gwadu cyhuddiad o’i llofruddio.

Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed bod Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a’r heddlu mai Steven Williams oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae o’n honni ei fod wedi mynd allan i brynu sigaréts a’i fod wedi dychwelyd i’r fflat a dod o hyd i Joanna’n gwaedu ar y llawr. Roedd yn honni y gallai rhywun a chyllell fod wedi ymosod arni tra’r oedd o wedi mynd allan.

Mae Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad yn honni bod Williams wedi trywanu Joanna Hall ac wedi aros iddi farw am hyd at bum awr cyn ffonio am help.

Roedd negeseuon ffôn yn awgrymu bod y ddau wedi cael ffrae’r noson honno.