Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n diweddaru canllawiau ar sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi penderfyniadau ar gyflogau uwch swyddogion.

Bydd y canllawiau newydd yn dod i rym ym mis Ebrill eleni.

Dywedodd y gweinidog dros lywodraeth leol, Lesley Griffiths, bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) 2013 yn cynnwys rhannau sy’n ymwneud â thâl uwch swyddogion mewn llywodraeth leol.

Ond ychwanegodd bod y diweddariad yn cynrychioli “camau cryf a phendant” i wneud cynghorau yn fwy agored.

Daw hyn yn dilyn adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â thaliadau i uwch swyddogion yng nghynghorau sir Caerfyrddin a Phenfro gan ddweud fod y taliadau yn “anghyfreithlon”.

Er bod Lesley Griffiths yn meddwl fod yn rhaid i aelodau etholedig lleol gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth am benderfyniadau sy’n ymwneud a thal eu uwch swyddogion, mae  hi wedi amlinellu tri phwynt mae hi’n gobeithio bydd yn creu rhagor o  dryloywder ac atebolrwydd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Datganiadau Polisi Tâl: Er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi datganiadau ar sut maen nhw’n pennu cyflogau ers dwy flynedd, mae adolygiad diweddar ar sut mae cynghorau yn gweithredu hynny  wedi dangos bod gwahaniaeth sylweddol yn eu fformat, cynnwys a chyflwyniad.

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd diweddariad i’r canllawiau yn cael ei gyhoeddi fel bod mwy o gysondeb yn yr adroddiadau a bod y datganiadau’n haws i ddod o hyd iddynt a’u darllen ar wefannau.

Rôl y Panel Taliadau Annibynnol: O fis Ebrill ymlaen, bydd unrhyw gynlluniau gan awdurdodau lleol i godi cyflog ei brif weithredwr yn gorfod cael ei graffu gan banel taliadau annibynnol.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol: Yn olaf , bydd y rheoliadau awdurdodau lleol yn cael ei newid sy’n cynnwys ei gwneud hi’n  ofynnol i bob penderfyniad ar gyflog neu fuddion prif swyddogion i’w cymryd gan y cynghorwyr etholedig.

Dylen nhw hefyd hysbysebu swyddi am uwch swyddogion yn allanol pan maen nhw’n bwriadu penodi rhai  newydd.

‘Gwerthoedd’

Meddai Lesley Griffiths AC: “Rwy’n fodlon y bydd y newidiadau a amlinellir yn darparu trefniadau mwy cadarn mewn perthynas â materion sydd wedi cael eu trin yn wael mewn rhai achosion.

“Bydd y newidiadau hyn hefyd yn rhoi cyfle pwysig i aelodau etholedig lleol ac uwch swyddogion i ddangos arweiniad a gwerthoedd y mae gan y cyhoedd a’u gweithwyr yr hawl i’w disgwyl.”

‘Pryderu am ddiffyg atebolrwydd’

Dywedodd Peter Black, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru dros lywodraeth leol: “Fe wnaeth y gwrthbleidiau bwyso am ychwanegu’r  darpariaethau hyn at y Ddeddf Llywodraeth Leol oherwydd yr oeddem yn pryderu am ddiffyg atebolrwydd y prif swyddogion a’r cynghorwyr wrth bennu eu cyflog eu hunain.

“Mae angen atebolrwydd a thryloywder wrth bennu cyflogau uwch swyddogion mewn llywodraeth leol. Yn rhy aml, mae’n ymddangos bod cynghorwyr yn methu arddel eu hawdurdod ar y materion hyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd penderfyniad y Gweinidog i roi rôl o oruchwylio i’r panel taliadau annibynnol ac i dynhau’r canllawiau, yn helpu i unioni’r cydbwysedd a chael gwared ag unrhyw gamddefnydd yn y system.”

‘Dim digon’

Dywedodd Janet Finch Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros lywodraeth leol nad oedd y cyhoeddiad yn mynd yn ddigon pell.

“Mae’r cyhoeddiad yn gam yn y cyfeiriad cywir, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell.”