Mark Drakeford
Fe fydd £1.8m yn cael ei wario ar wasanaethau triniaeth dialysis yng Ngogledd-orllewin Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Bydd yr arian yn mynd tuag at adnewyddu a gwella Uned Elidir yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a sefydlu is-uned barhaol yn Ysbyty Alltwen, Tremadog.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yr uned sy’n cael ei adnewyddu yn Ysbyty Gwynedd yn darparu amgylchedd clinigol gwell ar gyfer cleifion a staff.

Bydd gan yr uned le helaeth ar gyfer triniaeth dialysis, gan gynnwys ystafell hyfforddi, ystafell driniaeth, cyfleusterau penodedig i’r staff, ac ystafell aros o safon well.

Yn Ysbyty Alltwen, bydd naw o ‘gorlannau dialysis’ ac fe fydd gan yr uned fynedfa a man gollwng ei hun. Mae gwasanaeth dialysis dros dro’n cael ei ddarparu yn Ysbyty Alltwen ar hyn o bryd.

Disgwylir i’r gwaith ar yr uned newydd gychwyn ym mis Chwefror eleni, a dod i ben ym mis Chwefror 2015.

‘Lleddfu pwysau’

Dywedodd  Mark Drakeford: “Bydd yr uned barhaol yn Alltwen, a’r gwasanaeth estynedig yn Ysbyty Gwynedd sy’n cael ei adnewyddu, yn gwella cyfleusterau dialysis arennol yn ardal y Gogledd-orllewin.

“Bydd hynny o fudd i gleifion ac i staff a hefyd yn helpu i leihau’r amser teithio i’r cleifion hynny â chlefyd arennol sy’n byw ym Meirionnydd a Dwyfor, gan y byddai’r uned yn Alltwen yn gyfleus iddynt.

“Yn ychwanegol at hynny, bydd yn helpu i leddfu’r pwysau ar yr uned ddialysis yn Ysbyty Gwynedd.”