Sion Richards, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn cyd-weithrediad â Golwg360, sy’n trafod prosiect sy’n ran o’i ymchwil i newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ddydd Gwener diwethaf bu i mi lansio prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen.

Bwriad y prosiect yw darganfod strwythurau ar gyfer cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth a newyddion lleol.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (Twitter a Facebook) fel llwyfan dosbarthu cynnwys, yn ogystal â man ar gyfer rhyngweithio a thrafod pynciau, gyda’r llwyfannau’n galluogi rhyngweithio a chyfranogiad drwy rannu, hoffi a sgwrsio.

Pam Dyffryn Ogwen?

Mae’n hanfodol fod newyddion lleol yn cael ei gynhyrchu mewn ardaloedd lleol iawn ar gyfer cydnabyddiaeth gyffredinol o’r ardal. Rydw i’n byw yn yr ardal benodol yma, felly mae’n gyfle i greu newyddion a chynnwys ‘tu mewn allan’ (Allan,2006;t.6), gwybodaeth o’r gymuned ar gyfer y gymuned, gan dynnu sylw at hunaniaeth a diddordebau lleol sydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd cymunedol (Hudson, 2009; t.118)

Pam ddim gwefan?

Mae gwefan neu flog yn gofyn am gyfranogiad erthyglau cyson er mwyn cynnal cynulleidfa. Wrth ganolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol neu ‘microblogging’, mae buddsoddiad amser a chynhyrchu’n llai, gan fod cyfryngau cymdeithasol yn annog dull cyflymach o gyfathrebu ac yn gostwng gofynion y cyfranwyr (Java et al, 2007).

Mae’r adnoddau hefyd yn galluogi cylchrediad o luniau a fideo, gyda’r rhain yn gallu cael eu uwch lwytho a rhannu gan gyfranwyr potensial.

Yn ogystal â’r cyfraniad posib, mae canran uchel o’r gynulleidfa yn defnyddio ac eisoes yn cyfrannu ar y safleoedd yma; 25.7 miliwn o ddefnyddwyr unigryw y mis ar Facebook a 6.2 miliwn o ddefnyddwyr unigryw ar Twitter, Mawrth 2012 (Ofcom, 2012)

Hybu cyfraniad: WeThink Charles Leadbeater (2009)

Wrth geisio annog cyfraniad a gwarchod moesoldeb cynnwys wrth ddarlledu, mae nodweddion damcaniaeth WeThink Charles Leadbeater (2009) yn nodi pum nodwedd allweddol ar gyfer y gofynion yma:

  • Craidd: Ar gyfer prosiectau cymunedol llwyddiannus nodai Leadbeater fod syniad a chyfranwyr ‘craidd’ yn annatod bwysig.  Gyda ‘craidd’ da yn galluogi atynnu ac apelio i gyfranwyr gan wahodd syniadau, cyfraniad a sgiliau pellach (Leadbeater, 2009; p.68).
  • Cyfrannu: Gall cyfraniad llai gan sawl unigolyn fod llawn cystal ac arwyddocaol i brosiect adnewyddol ar waith cychwynnol y ‘craidd’, gyda sawl unigolyn yn gallu darparu cyfraniad ac adeiladu ar gysyniad y gwreiddiol (Leadbeater, 2009; p.70-75).
  • Cysylltu: Y mwyaf sy’n gysylltiedig – yr uchaf y sgiliau, gwybodaeth a syniadau caiff eu hawgrymu, gyda thebygolrwydd uwch o gynaladwyedd (Leadbeater, 2009; p.75-79).
  • Cydweithredu: Gan ddatblygu cymuned greadigol weithredol, gweler bod rheoleiddio a hunan lywodraethu yn angenrheidiol. Mae hyn yn bosib trwy gysylltu cymuned o amgylch nod a bwriad penodol, gyda chyfranogwyr ‘craidd’ yn arwain y rheoli (2009; p.79-82).
  • Creu: Mae’r damcaniaeth a’r potensial i alluogi creadigaeth gymdeithasol eang, sy’n ffynnu gyda chyfraniad torfol, sgiliau amrywiol, gwybodaeth, barn a defnydd offer pwrpasol i gyfrannu – sef y cyfryngau cymdeithasol (Leadbeater, 2009; p.82-83).

Byddaf yn ceisio defnyddio’r nodweddion yma wrth weithredu’r prosiect, gan annog cyfraniad drwy’r ymchwil fel y ‘craidd’.

Astudiaeth achos: Twitter


Graff 1
Gan edrych yn fras ar sampl ymchwil o fy thesis, gwelwyd fod ymroddiad ‘craidd’ perthnasol yn galluogi sylwebaeth ehangach ar destunau amrywiol, cyfraniad cymunedol a niferoedd ‘dilynwyr’ uwch.

Gan astudio defnydd sefydliadau newyddion lleol MyNewtown a MyWelshpool ar lwyfan Twitter (Sampl o 08/10/2013), gwelwn fod 3 gweithrediad ar amserlen MyNewtown a 7 gan MyWelshpool. Gan ddadansoddi’r gweithrediad gwelwyd fod:

  • Trydar gwreiddiol: 3 gan My Newtown; 2 gan MyWelshpool
  • Ail drydar gwybodaeth/ newyddion gan ddefnyddwyr eraill: 0 MyNewtwon; 5 MyWelshpool


Graff 2
Mae’r canlyniadau yma yn dangos fod canran uchel o allbwn MyWelshpool yn dod o ail drydar neu gynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr eraill, gweler graff 1.

O’r darganfyddiad yma, wrth gymharu allbwn cynnwys a thestunau’r ddau sampl mae mwy o destunau a diddordebau yn cael eu sylwebu gan esiampl MyWelshpool, y cyfrif sydd yn ymroi i ail drydar ac ymgysylltu â defnyddwyr eraill (graffiau 2 a 3).

‘Dilynwyr’ Twitter

Yn ogystal â hybu sylwebaeth eang yn seiliedig ar ddiddordebau lleol, gall awgrymu fod defnyddio cynnwys defnyddwyr yn hybu apel a diddordeb o fewn y gymdeithas, yn ogystal â
Graff 3
niferoedd dilynwyr a defnyddwyr.

Gan ddadansoddi dilynwyr y ddau safle, gwelwyd fod 1,182 yn dilyn MyNewtown a 1,797 MyWelshpool. Hefyd, gan ystyried poblogaeth y trefi cawn amcan bras faint o’r gymuned leol sydd yn defnyddio a dilyn y gwasanaethau newyddion ar Twitter:

  • Tref y Drenewydd:   19,504
  • Tref  Trallwng:          20,139 (static.powys.gov.uk, 2013):

Wrth greu cymhareb fras o ddilynwyr y cyfrifon Twitter a phoblogaeth y gymdeithas (gan ystyried efallai fod rhai ‘dilynwyr’ y tu allan i ddalgylch daearyddol yr ardal) gweler fod cyfrif @Mywelshpool â chymhareb dilynwyr 1 i bob 11 o bobol, gyda chyfrif @My_Newtown a 1/16 (cymhareb i’r ffigwr llawn agosaf).

Gan ystyried y ffigyrau, mae’n dangos fod ymroddiad i ymgysylltu ac ail drydar defnydd a gwybodaeth defnyddwyr yn cynyddu allbwn cynnwys y safleoedd newyddion, yn ogystal â hybu apêl ymysg y gymdeithas leol a defnydd y gwasanaeth newyddion.  Awgryma’r canlyniadau fod ymroddiad i gyd-weithio, cyd-rannu a ymgomi â defnyddwyr eraill arlein yn gerbyd llwyddianus wrth hyrwyddo cynnyrch yn ogystal â fframwaith marchnata gref.

Cyd-destun ymarferol Ogwen360

Gan gydnabod y darganfyddiadau a phwyslais defnydd cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr, mae eisoes gwybodaeth gymunedol leol yn cael ei greu ar lwyfannau cymdeithasol. Mae rhain yn cynnwys cyfrifon timau chwaraeon lleol, symudiadau diwylliannol a.y.b.

Fy mwriad wrth ddechrau ar y prosiect ymarferol yw ceisio creu cysylltiad â phartneriaeth gymdeithasol gyda’r mentrau lleol eraill, gan greu sgwrs gymdeithasol ddigidol, gyda’r bwriad o hyrwyddo digwyddiadau, newyddion a diddordebau lleol.

Nod sylfaenol y prosiect yw annog cylchrediad newyddion Cymraeg lleol ar-lein, gan hybu defnydd o’r Gymraeg ar lwyfannau cyfoes.