Llys y Goron, Yr Wyddgrug
Mae dyn wedi cael ei garcharu am saith mlynedd am ladrad arfog yn siop fetio yng Ngwynedd.

Fe dorrodd Gwilym Anthony Owen, 43, i mewn i’r siop yn Stryd y Wyddfa, Penygroes, ar 17 Mai, 2013, gyda bat pêl fas a dwyn arian cyn rhedeg i ffwrdd.

Fe gafodd y dyn o Lanllyfni ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw. Roedd hefyd yn cael ei gyhuddo o werthu cyffuriau.

Roedd wedi pleidio yn euog i’r cyhuddiadau mewn gwrandawiad cynharach.

Llygad dyst

Dywedodd Ditectif Inspector Iestyn Davies: “Byddai Heddlu Gogledd Cymru yn hoffi diolch i’r llygad dyst a fu’n rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos a dw i’n gobeithio fod y ddedfryd heddiw yn rhoi cysur i drigolion fod posib dal troseddwr gyda’u help nhw.” meddai’r Ditectif Inspector Iestyn Davies.