Rhun ap Iorwerth wedi cael ymddiheuriad i Vernon Jones
Mae asiantaeth y
National Savings & Investments wedi ymddiheuro wrth ddyn o Ynys Môn ar ôl gwrthod siec yr oedd wedi ei llenwi yn Gymraeg.

Fe wnaeth y corff, sydd dan adain Llywodraeth Prydainl ymateb ar ôl i’r Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth, ymyrryd ar ei ran.

Ond mae’r asiantaeth yn dal i fynnu bod rhaid i unrhyw ohebiaeth sydd gyda’r siec fod yn Saesneg.

Sieciau Cymraeg ers mwy na 60 mlynedd

Ers dechrau gweithio i Fanc Lloyds yn ôl yn 1943 fe fu Vernon Jones o Lanfairpwll yn ysgrifennu sieciau yn y Gymraeg heb unrhyw drafferth, gan gynnwys rhai trwy’r swyddfa bost i dalu Bondiau Premiwm.

Ond pan benderfynodd ym mis Tachwedd y llynedd i anfon siec yn uniongyrchol i NS&I, fe dderbyniodd lythyr yn ôl yn dweud na fyddai’r siec yn cael ei derbyn.

Ar ôl i Rhun ap Iorwerth sgrifennu at yr asiantaeth ar ei ran, fe ddaeth llythyr yn ymddiheuro.

Dywedodd llefarydd ar ran NS&I: “Rydym yn derbyn unrhyw sieciau o gyfrifon banc Prydeinig, boed y siec mewn Saesneg neu Gymraeg, cyn belled a bod yr ohebiaeth sydd yn dod gydag ef, gan gynnwys y cais prynu perthnasol, yn cael ei gwblhau mewn Saesneg.”

“Ddim yn dderbyniol”

Esboniodd Vernon Jones, sydd ar drothwy ei ben-blwydd yn 86 oed, nad oedd wedi disgwyl yr ymateb gwreiddiol hwnnw gan NS&I i’w siec.

“Fe ddywedon nhw yn y llythyr gwreiddiol nad oedden nhw’n derbyn sieciau yn y Gymraeg am nad oedd ganddyn nhw gyfieithwyr, a bod yn rhaid i mi ei chyfieithu a’i anfon yn ôl atyn nhw,” meddai Vernon Jones wrth golwg360.

“Wel, doeddwn i ddim yn barod i dderbyn hynny wrth gwrs. Dw i wedi sgwennu cannoedd ar gannoedd ohonyn nhw, ac erioed wedi cael fy ngwrthod tan rŵan.”

Anhapus

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn dal yn anhapus fod yr asiantaeth yn mynnu gohebiaeth Saesneg i gyd-fynd â sieciau.

“Dw i’n falch fod yna rywbeth wedi dod ohono fo,” meddai Vernon Jones. “Ond dwi ddim yn licio’r darn yna [am ohebiaeth ychwanegol yn Saesneg]. Rhyw hanner ffordd maen nhw wedi mynd a deud y gwir.

“Fe ddylwn nhw baratoi ffurflen ddwyieithog. Wnawn nhw ddim wrth gwrs, ond dw i ddim am fynd â’r peth ymhellach – o leiaf rydan ni wedi ennill rhyw fath o fuddugoliaeth.”

Rhun ap Iorwerth – ‘edmygu’

Mewn datganiad dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edmygu safiad Mr Jones.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod NS&I – sy’n asiantaeth i’r Canghellor – wedi gwrthod y siec yn y lle cyntaf,” meddai. “Ond mae’n dda gweld eu bod nhw wedi derbyn hynny, ac maen nhw bellach yn ymwybodol o hawliau cwsmeriaid i ysgrifennu sieciau Cymraeg.

“Rydw i’n edmygu Mr Vernon Jones a’i wraig am wneud safiad ac yn ddiolchgar iddyn nhw am gysylltu gyda fy swyddfa.”