Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried ei gwneud hi’n orfodol i gynghorau lleol gynnig trafniaeth am ddim i ddisgyblion ysgol o bob oed, yn ôl undeb athrawon Cymraeg.

Ac fe fyddan nhw’n ystyried a oes modd i herio penderfyniad rhai cynghorau i roi’r gorau i dalu am drafnidiaeth i ddisgyblion tros 16 oed.

Mae undeb UCAC ynd dadlau y bydd hynny’n effeithio’n arbennig o wael ar addysg Gymraeg, medden nhw, gan fod rhaid i lawer o ddisgyblion uwchradd deithio cryn bellter i ysgolion dwyieithog.

Fe allai’r camre posib gynnwys pwysau gwleidyddol, neu gwyn i Gomisiynydd y Gymraeg neu hyd yn oed her gyfreithiol, meddai Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC.

Condemnio

Mae’r undeb a’r mudiad addysg Gymraeg, RhAG, wedi condemnio bwriad cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr i ddileu’r cymorth teithio ac wedi rhybuddio bod cynghorau Abertawe a Sir Fynwy’n ystyried gwneud yr un peth.

Yn ôl Rebecca Williams mae’n bosib nad yw’r awdurdodau wedi sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r bygythiad i addysg Gymraeg.

“Os bydd y ddarpariaeth ôl-16 dan fygythiad, beth sy’n digwydd i weddill yr ysgolion?” meddai. “A beth sy’n digwydd i ddarganfyddiad rhien i o werth addysg Gymraeg.”

Fe allai her gael ei seilio ar y ffaith fod gan ddisgyblion hawl i addysg Gymraeg ond fod dileu cymorth teithio’n gwahaniathu mwy yn erbyn disgyblion ysgolion Cymraeg na’r gweddill.

Mae’r undeb hefyd y dadlau bod dileu’r cymorth yn mynd un groes i nod Llywodraeth Cymru o annog pobol ifanc i aros mewn addysg, yn ogystal â chynyddu addysg Gymraeg.

Y cefndir

Mae’n rhaid i gynghorau gynnig cymorth teithio i ddisgyblion cynradd a rhai uwchradd hyd at 16 oed  – os yw’r rhai cynradd fwy na dwy filltir o’r ysgol agosa’ neu’r rhai uwchradd tros dair.

Mae hynny wedi cynnwys cymorth i deithio i’r ysgolion Cymraeg mwya’ cyfleus.

Yn Lloegr, mae’r Llywodraeth yn y broses o godi oed statudol gadael ysgol i 18.

Fe fyddai codi’r oed statudol yng Nghymru yn debyg o godi oed statudol y cymorth teithio hefyd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad hyd yn hyn.