Dylai disgyblion cynradd yng Nghymru fod yn dysgu ieithoedd tramor er mwyn cynyddu’r nifer sydd yn mynd ymlaen i’w hastudio ar gyfer TGAU a Lefel A.

Dyna’r alwad gan y ganolfan ieithoedd CILT Cymru, yn dilyn ffigyrau gan Lywodraeth Cymru sy’n dangos gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n dewis astudio iaith yn hwyrach ymlaen yn yr ysgol.

Mae nifer y disgyblion sydd yn astudio iaith dramor ar gyfer eu TGAU wedi cwympo o 12,826 yn 2005, i 8,601 erbyn 2013.

Mae’r gostyngiad hyd yn oed yn fwy ar gyfer Lefel A dros yr un cyfnod, gyda’r nifer wedi haneru o 1,467 i 668 yng Nghymru.

“Mae llawer o fanteision hyfforddiant iaith cynnar, nid yn unig dysgu’r geiriau, y diwylliant a’r dealltwriaeth, empathi a chyfathrebu gyda diwylliannau a phobl eraill,” meddai Carolyn Goodwin, cynghorydd iaith CILT Cymru wrth y BBC.

“Mae ymchwil wedi dangos bod dysgu unrhyw iaith, a dysgu cyn gymaint o ieithoedd a phosib yn gynnar, yn medru atgyfnerthu’r sgiliau a’r gweithgaredd gwybyddol sydd yn mynd ymlaen.

“Ac mae gennym ni dystiolaeth bendant ei fod yn codi safonau darllen.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd ieithoedd tramor a’u bod yn annog ysgolion i’w dysgu, ond bod Cymraeg eisoes yn cael ei ddysgu ar lefel cynradd drwy gydol Cymru.