Steffan Rhodri sy'n rhoi llais i Drippy yn y gêm Ni No Kuni: Wrath of the White Witch
Dyma’r cyntaf o gyfres o flogiau wythnosol ar ddyddiau Mawrth yn edrych ar y byd digidol o bersbectif Cymreig.
Yn y blog agoriadol yma, fydd yn canolbwyntio ar gemau cyfrifiadurol, Dafydd Prys sy’n edrych ar y Cymry sy’n cynrychioli ein cenedl ym myd y gemau cyfrifiadurol.
Dwi ddim yn ymfalchïo yn y ffaith mod i’n cyffroi pan dwi’n gweld neu glywed Cymry mewn llefydd annisgwyl a llwyddiannus, ond wedi dweud hynny mae’r blog cyntaf yma bron yn monopoleiddio’r cysyniad (ac na, nid am Gareth Bale mae hwn.)
Sôn ydw i am y ddwy acen adnabyddus Gymreig mewn dwy gêm gyfrifiadurol sylweddol yn 2013 (a thipyn bach am berthynas Cymru efo’r diwylliant gemau cyfrifiadur). Rhodri Steffan, y sinsirddyn ei hun, sydd yn chwarae rhan cymeriad Drippy yn yr JRPG (Japanese Role Playing Game) enfawr Ni No Kuni: Wrath of the White Witch, a Matt Ryan sy’n chwarae Edward Kenway, yr Assassin diweddaraf yng nghyfres y cawr-fusnes o Ffrainc, Ubisoft, sef Assassin’s Creed: Black Flag.
Gyda’r gemau yma’n gwerthu yn eu miliynau ledled y byd mae’n amlwg fod hwn yn ddiwydiant all godi ymwybyddiaeth o Gymru. Ond llai o’n ffrothian i a mwy gan Matt Ryan – wele ei ymateb o i chwarae rhan Edward Kenway yn y fideo yma (rhybudd – mae’r fideo yn cynnwys iaith anweddus).
Ac am flas o acen drawiadol Rhodri Steffan fel Drippy gwyliwch isod:
Matt Ryan sy'n chwarae Edward Kenway yn Assassins Creed
Nid yw’n syndod fod cymeriad Rhodri Steffan, Drippy, yn greadur arallfydol, a Matt Ryan yn chwarae môr leidr, gyda’r Cymry yn amlygu eu hunain yn y byd hwnnw. Mae tueddiad ym myd llenyddiaeth, teledu a ffilm i gysylltu’r acen Gymreig efo cymeriadau breuddwydiol/arallfydol (o ganlyniad i Mabinogi/straeon Arthurol tybiwn i). Er hynny, mae cysylltiad amlwg rhwng Studio Ghibli o Japan sy’n enwog am eu ffilmiau animeiddio swmpus, ac a gynlluniodd y gwaith celf yn Ni No Kuni. Mae pen y cwmni, Hayao Miyazaki (sydd yn anffodus ar fin ymddeol), wedi datblygu perthynas gref iawn efo cymoedd y de (gwyliwch y ffilm Laputa os chi’m yn fy nghredu). Gall fod yn gyd-ddigwyddiad llon, wrth gwrs – yn ffynnu o allu’r ddau actor yn unig – ond mae’n haenen arall ar ben diwydiant sy’n datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd, yn enwedig yng nghymoedd y de.
Hefyd mae cwmni Dai Banner (Wales Interactive yn Nhreorci) ar fin rhyddhau gêm ar y PlayStation Network ac ar Steam Greenlight, ond yr hyn sy’n neud y gêm yma’n gyffrous yw ei bod yn bosib chwarae’r holl beth yn y Gymraeg! Enaid Coll/Master Reboot yw ei enw ac (i mi) mae siâp cyfarwydd iawn i’r naratif, a llawer o gysyniadau Annwfnol yn treiddio drwyddi draw. Cymrwch olwg arni yma:
Mae hi’n edrych fel gêm ddigon taclus ac yn werth chweil rhoi cynnig arni – anghofiwch, am eiliad, am deimladau brwdfrydig tua’r iaith – prynwch y peth gan ei bod yn edrych yn hyfryd ac yn rhedeg yn ddiddorol.
Diwydiant Digidol Cymreig
Mae Dai Banner wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers yr wythdegau cynnar (Allstar Soccer i Eidos!) ond dyma ei gêm gyntaf yn y Gymraeg (er nid y cynnyrch cyntaf). Mae diolch mawr i gefnogaeth Llywodraeth Cymru a’i system grantiau newydd yn y byd adloniant digidol, Y Gronfa Datblygu Digidol am alluogi’r tîm i gwblhau’r prosiect ac i S4C am drosi’r gêm i’r Gymraeg.
Ges i sgwrs gyflym â Dai ynglŷn â’r prosiect, ac roedd o’n sôn fod y tîm yn frwdfrydig iawn i gynnig y gêm mewn sawl iaith gan gynnwys y Gymraeg, sydd i mi yn weledigaeth iach dros ben. Mae llwyfan mwy cadarn yng Nghymru nawr gyda chymorth y Gronfa Datblygu Digidol ac S4c i gynnig gemau yn y Gymraeg, ac efallai y gall Llywodraeth Cymru gynnig grantiau i gwmnïoedd tu allan i Gymru i drosi eu gemau i’r Gymraeg (braf gallu dweud fod tîm cenedlaethol Cymru bellach ar FIFA!).
Efe, Saunders Lewis, wedodd fod twf y Gymraeg yn dibynnu ar ddefnydd bob dydd, defnydd lled-dechnegol a defnydd rhaglenni llywodraethol. Dim ond syniad un boi yw hwnna, felly sut gwell na chadarnhau’r syniad drwy geisio profiadau newydd drwy’r Gymraeg? Dwi’n sicr am roi cynnig arni.
Traddodiad yng Nghymru
Dros y degawdau mae hanes hirach o ddatblygu gemau cyfrifiadur yng Nghymru.
Gan ddefnyddio Aberystwyth fel enghraifft, ar hyn o bryd yn un o unedau Parc Gwyddoniaeth Aberystwyth mae cwmni Broadsword yn gweithio ar sawl prosiect yn y diwydiant tra, nôl yn 1990 ar yr un safle, fe greodd cwmni Goliath Games fersiwn o’r gêm fwrdd Subbuteo ar gyfer y Commodore a’r Spectrum (cliciwch yma am flas ohono). Yn ddiddorol iawn mae Jim Finnis, gynt o Goliath Games, nawr yn gweithio i Broadsword!
Hefyd o Bow Street ger Aberystwyth ddaeth cwmni Abersoft, oedd yn gyfrifol am un o fersiynau ail-sgwennu Colossal Cave Adventure, sef wrth gwrs i’r rheiny ‘in the know’, oedd yr enghraifft gyntaf o ‘text-based adventures’. Os datblygodd hyn oll yn Aberystwyth yn unig, hawdd credu fod y diwydiant yn ffynnu mewn sawl man arall, hyd yn oed os yw’n anweladwy i’r rhan fwyaf. Mae blynyddoedd difyr o’n blaen.
Oes enghreifftiau pellach o gymeriadau Cymraeg gennych chi? Trydarwch @dafprys a @golwg360.