Neil Kinnock - cefnogwr brwd o'r Adar Gleision
Cafodd yr Arglwydd Kinnock ei arwain o’i sedd gan stiwardiaid yn ystod gêm Caerdydd ar y penwythnos wedi iddo ddathlu gôl yn rhy wyllt.

Roedd y cyn Aelod Seneddol a chefnogwr brwd o glwb Caerdydd yn dathlu gôl gyntaf y tîm wrth iddynt herio Fulham, ac yn eistedd mewn rhan o’r stadiwm ar gyfer cefnogwyr y tîm cartref yn hytrach na chefnogwyr yr Adar Gleision.

Fe achosodd gryn anniddigrwydd ymysg cefnogwyr y clwb o Lundain wrth neidio i fyny ac i lawr wrth ddathlu, ac fe ddywedodd staff diogelwch ei fod yn ‘sbwylio’ mwynhad y dorf.

Syndod i gefnogwyr Caerdydd

Roedd yr Arglwydd Kinnock yn eistedd gyda dau o’i wyrion ac ymysg cannoedd o gefnogwyr Caerdydd oedd wedi llwyddo i gael tocynnau yn rhan ‘cartref’ stadiwm Craven Cottage, yn ôl y Telegraph.

Dywedodd un cefnogwr ar fforwm Caerdydd: “Dwi ddim yn siŵr os oes gan Neil cymaint o brofiad a fi yn eistedd gyda’r cefnogwyr cartref, ond fe arweiniodd ei ddathliadau am ein gôl gyntaf iddo gael ei hel o’r stand.”

Yn hwyrach ymlaen fe welwyd yr Arglwydd Kinnock yn mynd yn wyllt unwaith yn rhagor mewn rhan arall o’r stadiwm wedi i Gaerdydd sgorio gôl hwyr i ennill y gêm – eu buddugoliaeth oddi cartref cynta’ o’r tymor.

“Cyd-ddigwyddiad”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Arglwydd Kinnock ei fod dan yr argraff y byddai’n cael tocynnau i eistedd gyda’r cefnogwyr ‘oddi cartref’, ac mai cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hi fod ef a’i wyrion wedi symud yn fuan wedi’r gôl.

Yn ôl llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Fulham, fe aethpwyd ag ef i ffwrdd oherwydd bod gan y clwb bolisi o wahanu cefnogwyr cartref ac oddi cartref pan fo’n bosib.

“Fe achosodd Mr Kinnock ymateb blin pan ddathlodd ef a’i deulu gôl Caerdydd,” meddai wrth y Telegraph.

“Roedd gennym seddi sbâr gennym mewn eisteddle arall. Rydyn ni am wneud siŵr fod cefnogwyr cartref yn mwynhau eu profiad.”