Pablo Hernandez
Mae Abertawe yn gobeithio y bydd yr asgellwr Pablo Hernandez yn holliach ar gyfer ei gêm yn erbyn St Gallen nos Iau yng nghynghrair Ewropa.
Nid yw’r Sbaenwr wedi chwarae i Abertawe ers 1 Medi pan wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth yn erbyn West Brom gyda’i gôl yn hwyr yn yr ail hanner.
Wedi gwella o’i anaf i’w glun, fe wnaeth Hernandez ymarfer gyda’r garfan yr wythnos diwethaf a gall fod yn rhan o gynlluniau rheolwr Abertawe Michael Laudrup nos Iau.
Er bod Hernandez ar ei ffordd yn ôl, mae amheuon ynglŷn â chwaraewr canol cae Abertawe, Roland Lamah. Fe wnaeth y chwaraewr o Wlad Belg anafu bys ei droed yn ystod y gêm yn erbyn Birmingham yr wythnos diwethaf.