Jonathan Davies
Mae canolwr Cymru a’r Llewod Jonathan Davies wedi dweud ei bod yn awyddus i aros yng Nghymru i chwarae rygbi.
Yn ogystal â Davies mae yna lu o chwaraewyr Cymru sy’n gorffen eu cytundebau gyda’r clybiau rhanbarthol y tymor hwn. Mi fydd Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Adam Jones, Alun Wyn Jones a Rhys Priestland yn chwilio am gytundebau newydd.
Wedi perfformiad arbennig yng nghrys y Llewod yn ystod yr haf yn Awstralia, mae’n siŵr y bydd nifer o glybiau â llygaid barcud ar Davies. Ond mae Davies yn obeithiol y gallai arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.
‘‘Rwyf wedi cefnogi’r clwb yma ers yn blentyn a hoffwn aros yng Nghymru, hefyd dwi methu siarad Ffrangeg yn dda iawn chwaith,’’ meddai Davies.
Un digwyddiad a all wneud gwahaniaeth mawr i’r Scarlets i gynnig cytundeb newydd i Jonathan Davies yw datrys cystadleuaeth y Cwpan Heineken. Pe bai’r gystadleuaeth yn gorffen, fe fydd pob rhanbarth yn colli tua £1.2 miliwn.