Andy Powell
Ni fydd cyn wythwr y Llewod Andy Powell yn rhan o garfan tîm rygbi’r gynghrair Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae’r chwaraewyr 32 mlwydd oed, a newidiodd ei gamp i chwarae rygbi’r gynghrair ym mis Mehefin, wedi gwneud pum ymddangosiad i Wigan dros yr haf ond ni fydd yn gallu chwarae yn y bencampwriaeth oherwydd anaf.

Ni fydd  Michael Channing na Tyson Frizell yn rhan o’r garfan chwaith ond bydd canolwr Warrington, Rhys Evans, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ar ôl newid ei deyrngarwch o Loegr.

Bydd Rhys Evans, a gafodd ei eni ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn ymuno a’i frawd, Ben, yn y garfan sy’n cynnwys 14 o chwaraewyr y Super League.

Bydd gem agoriadol Cymru yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Hydref. Dyma bedwerydd Cwpan y Byd i dîm Cymru.

Meddai hyfforddwr Cymru, Iestyn Harris: “Mae gennym garfan o 23 dyn brwdfrydig sydd yn ysu i chwarae dros eu gwlad. Allwn ni ddim disgwyl nes bydd y bencampwriaeth yn ddechrau ac rydyn ni’n anelu i achosi ambell sioc.”