Gyda chymaint o chwaraewyr rygbi amlycaf Cymru’n chwarae dramor bellach, bydd Golwg360 yn cadw golwg ar eu hynt o un wythnos i’r llall.

Sgoriodd George North ei gais cyntaf dros Northampton wrth i’w dîm drechu Sale o 33-14 i aros yn ail yn nhabl y Premiership.

Gwaith cario da gan yr asgellwr arweiniodd at gais gyntaf y gêm i Luther Burrell, ac fe groesodd North ei hun toc wedi ugain munud i roi ei dîm 12-0 ar y blaen, cyn dod oddi ar y maes gyda 14 munud yn weddill. Roedd Eifion Lewis-Roberts ymysg ei wrthwynebwyr i Sale.

Cafodd Mike Phillips gais hefyd wrth i Bayonne ennill o 27-19 yn erbyn Biarritz, wrth gymryd cic gosb sydyn a sgorio ei hun i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda 10 munud yn weddill. Doedd Ben Broster nac Aled Brew yn nhîm Biarritz.

Roedd cyfraniad James Hook yn un allweddol i Perpignan wrth iddo gicio pymtheg o bwyntiau, gan gynnwys gôl adlam hwyr o 50 metr, wrth i’w dîm drechu Toulouse 20-16.

Chwaraeodd yn safle’r cefnwr unwaith eto gyda Camille Lopez yn parhau fel maswr, ond mae’n parhau â’r dyletswyddau cicio. Cyn y gêm fe gyhoeddwyd ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb tan 2017.

Sgoriodd Lee Byrne gais hwyr wrth i Clermont chwalu Bordeaux 40-11. Roedd hi’n gêm annisgybledig tu hwnt, a welodd saith chwaraewr gan gynnwys Byrne yn derbyn cardiau melyn.

Chwaraeodd Paul James 60 munud wrth i Gaerfaddon drechu Gwyddelod Llundain 33-18, gêm ble ddaeth y mewnwr Darren Allinson oddi ar y fainc am 13 munud i’r Gwyddelod.

Jonathan Thomas oedd capten Worcester wrth iddynt golli 32-16 i Wasps, tra bod Phil Dollman a Tom James yn rhan o dîm Exeter a gollodd i Gaerlŷr.

Seren yr wythnos: James Hook – dechrau da i North, ond gôl adlam hwyr o 50 metr yn ennill.

Siom yr wythnos: Jamie Roberts, Dan Lydiate a Luke Charteris yn parhau i fod yn absennol.