Mewn eitem wythnosol newydd, bydd Golwg360 yn bwrw golwg dros y pêl-droedwyr Cymreig sydd wedi disgleirio dros y penwythnos.

Mae Aaron Ramsey ar dân i Arsenal hyd yn hyn y tymor yma, ac fe gafwyd perfformiad disglair arall ganddo wrth i Arsenal drechu Abertawe 2-1 ddydd Sadwrn.

Creodd y gôl gyntaf gyda phas glyfar i Gnabry, cyn ychwanegu’r ail gôl ei hun o ymyl y cwrt cosbi yn dilyn gwaith da gan Giroud, ei wythfed y tymor hwn. Er iddo wynebu ymateb heriol oddi wrth gefnogwyr yr Elyrch, o gofio’i gefndir fel bachgen o Gaerdydd, cafodd ei enwi’n seren y gêm unwaith eto gyda’i dîm bellach ar frig y dabl.

Cymro arall rwydodd i Abertawe hefyd, wrth i Ben Davies orffen symudiad slic gan amseru’i rediad a rhwydo gydag wyth munud yn weddill. Lle ar y fainc yn unig oedd i Neil Taylor, gydag yntau’n dychwelyd o anaf, tra bod Ashley Williams yn parhau i fod allan.

Serennodd Sam Vokes yn y Gynghrair hefyd, gan rwydo ddwywaith wrth i Burnley drechu Charlton 3-0 ym Mhencampwriaeth Lloegr. Mae ganddo bellach chwe gôl y tymor hwn.

Siom gafodd Gareth Bale yn ei gêm gartref gyntaf i Real Madrid, y ‘ddarbi’ yn erbyn Atletico Madrid. Daeth i’r maes wedi’r egwyl ac er ei fod wedi creu argraff wrth geisio achub y gêm i Real, colli 1-0 oedd ei hanes.

Roedd Boaz Myhill yn rhan o dîm West Brom a drechodd Man United 2-1 dros y penwythnos, gan barhau yn y gôl oherwydd anaf Ben Foster. Er iddo ildio un gôl, da yw gweld ei fod bellach yn chwarae’n rheolaidd.

Cafodd Danny Gabbidon gêm lawn hefyd wrth i’w dîm Crystal Palace golli 2-0 i Southampton. Doedd James Collins a Jack Collison ddim mor ffodus – ni chwaraeodd yr un ohonynt i West Ham.

Yng ngweddill y Gynghrair, chwaraeodd Andrew Crofts, Wayne Hennessey, Andy King, Joel Lynch, Jazz Richards, Chris Gunter a Hal Robson-Kanu gemau llawn.

Seren yr wythnos: Aaron Ramsey – Gôl, creu un arall, seren y gem. Chwaraewr hanfodol i Arsenal.

Siom yr wythnos: Gareth Bale – heb gael cyfle iawn i ddangos ei ddoniau ym Madrid eto.