Mae Brexitwyr ffyrnig yn dweud eu bod bellach yn fodlon derbyn cytundeb ‘trychinebus’ oherwydd fod crëwr y cytundeb yn mynd.

Mae Jacob Rees-Mogg yn fodlon ei dderbyn er ei fod yn dal i ddweud y bydd yn troi’r Deyrnas Unedig yn gaeth-wladwriaeth i’r Undeb Ewropeaidd … yn hytrach na bod yn aelod mwy na chyfartal fel ar hyn o bryd.

Maen nhw’n ildio oherwydd addewid Theresa May na fyddai hi’n arwain y trafodaethau nesa’ … er na allai hi arwain y trafodaethau beth bynnag am fod ei hygrededd yn Ewrop yn chwilfriw.

Ac, wrth gwrs, dyna’r Prif Weinidog ei hun … os bydd hi’n llwyddo, mi fydd yn ymddiswyddo; os bydd hi’n methu, aros. Perffaith sens.

Mae eraill yn dadlau tros fargeinion fel Norwy+ er mwyn ‘cadw at benderfyniad y refferendwm’ i adael yr Undeb … er na fyddwn ni’n gadael, dim ond yn colli ein hawl i bleidleisio.

Ar ben hynny i gyd, mae aelodau seneddol yn gwrthod pob syniad posib, ac mae dyfodol pawb yn nwylo deg o aelodau doeth o Ogledd Iwerddon, lle mae mwyafrif pobol am aros.

Diolch byth nad ydan ni, Brits, fel yr Ewropeaid anwadal yna.