Mae’r dyn sy’n euog o ladd protestiwr ar ôl gyrru mewn i dorf mewn rali eithafwyr gwyn yn Virginia, yr Unol Daleithiau, wedi pledio’n euog i droseddau casineb.

Fe sbardunodd y digwyddiad hwnnw densiynau hiliol enfawr yn yr Unol Daleithiau.

Roedd cannoedd o genedlaetholwyr gwyn wedi ymgynnull yn Charlottesville i brotestioyn erbyn bwriad i gael gwared ar gerflun o’r Cydffederalydd Gen Robert E Lee

Fe blediodd James Alex Fields Jr, 21 oed, ac o Maumee yn Ohio, yn euog i’r 29 o 30 o’r cyhuddiadau sydd wedi dilyn rali “Unite the Right” yn Charlotesville ar Awst 12, 2017.

Plediodd yn ddieuog o un achos a oedd yn cario’r posibilrwydd o’r gosb eithaf.

Ym mis Rhagfyr, fe gafodd James Alex Fields ei dyfarnu’n euog o lofruddiaeth gradd gyntaf a thaliadau eraill y wladwriaeth am ladd yr ymgyrchydd gwrth-hiliaeth Heather Heyer ac anafu dwsinau.