Mae Oliver Letwin, y gwleidydd a luniodd yar gyfer pleidlais opsiynau Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (Dydd Mercher, Mawrth 27), yn rhybuddio bod gwledydd Prydain cam yn agosach at Frexit heb gytundeb.
Yn ôl yntau, mae hyn yn debygol os nad yw Aelodau Seneddol yn cefnogi’r opsiynau eraill i gytundeb y Prif Weinidog, Theresa May.
Fe fydd Aelodau Seneddol yn cael ail rownd o bleidleisio ddydd Llun (Ebrill 1) os nad yw Theresa May yn llwyddo i ennill cefnogaeth i’r chytundeb hi cyn hynny.
Ni lwyddodd yr un o’r opsiynau amgen – wyth ohonyn nhw – i ennill mwyafrif yn y Tŷ neithiwr (nos Fercher, Mawrth 27).
“Ar ryw bwynt neu’i gilydd bydd rhaid i ni gael cytundeb Theresa May trwodd, neu dderbyn bod rhaid i ni ddod o hyd i opsiwn arall, os ydan ni am osgoi Brexit heb gytundeb,” meddai Oliver Letwin ar raglen Today ar BBC Radio 4 heddiw (dydd Iau, Mawrth 28).
“Ar y foment, Brexit heb gytundeb sydd fwyaf tebygol,,, Ar hyn o bryd, o dan y gyfraith, rydym yn anelu am sefyllfa ble rydan ni’n gadael heb gytundeb ar Ebrill 12.”