Mae tancer olew a gafodd ei chipio gan ffoaduriaid yn y Môr Canoldir, wedi cyrraedd porthladd yn Melita ar ôl i’r lluoedd arfog ymyrryd.
Roedd y tancer wedi achub tua 120 o bobol wrth iddi anelu am Libya.
Ond ar ôl achub y ffoaduriaid oedd yn sownd yn y dŵr ddydd Mercher (Mawrth 27), fe geisiodd y rheiny gymryd rheolaeth o’r tancer a’i gwyro oddi ar ei llwybr gwreiddiol tuag at ogledd Ewrop.
Fe lwyddodd y gwasanaethau achub i gyfathrebu gyda chapten y tancer olew, El Hiublu 1, a chael ar ddeall gan y capten nad oedd o mewn rheolaeth o’r tancer a’i fod yn cael ei fwgwth i anelu am ynys Melita.
Fe lwyddodd i gwch patrôl atal y llong rhag cyrraedd moroedd Malta, cyn i’r lluoedd arfog ei hachub.
Dywed gweinidog cartref Yr Eidal, Matteo Salvini, mai dyma’r “achos cyntaf o fôr-ladrad ar y moroedd mawr gan ffoaduriaid”.