Dylan Iorwerth sy’n codi cwestiynau am dactegau etholiad arweinydd Plaid Cymru
Mae’n bosib mai syniad beiddgar i gael sylw ar ddechrau ymgyrch anodd ydi awgrym Plaid Cymru y bydd ei harweinydd, Leanne Wood, yn sefyll yn y Rhondda yn yr Etholiad Cyffredinol.
Y ddadl hyd yn hyn ydi fod hwn yn ‘etholiad argyfwng’ a bod angen yr ymgeiswyr cryfa’ a’r bobol gryfa’ yn San Steffan er mwyn cael dylanwad.
Yn amlwg, mi fydd hi’n anodd i Blaid Cymru gael sylw – mae hynny’n wir am bob ymgyrch Brydeinig; mi fydd hyn yn oed yn fwy gwir am ymgyrch lle mae Brexit yn brif bwnc, a Britain ydi’r Br.
Mae’n debyg mai’r ddamcaniaeth ydi y byddai Leanne Wood yn cael sylw, yn rhannol oherwydd ei fod i’w weld yn gam mentrus ynddo’i hun.
Mae’n wir fod gan Leanne Wood broffil Prydeinig uwch na’r un gwleidydd arall o fewn y Blaid ond mae hynny’n dibynnu mwy ar un ateb i Nigel Farage ddwy flynedd yn ôl nag ar berfformiadau diweddar.
Y cwestiynau sy’n codi
Felly, a ydi hi a Phlaid Cymru wedi meddwl o ddifri am ystyr dyfnach penderfyniad o’r fath ac am y negeseuon sydd ymhlyg hyd yn oed mewn chwarae-bach o gwmpas y syniad?
I ddechrau, mae’n awgrymu bod un sedd o blith 650 yn San Steffan yn bwysicach nag un sedd o blith 60 yn y Cynulliad – hyd yn oed os oes yna rhyw fath o argyfwng Prydeinig.
Yn ail, mae’n golygu y bydd rhaid iddi roi’r gorau i arweinyddiaeth Plaid Cymru, neu geisio newid y rheolau i ganiatáu i aelod yn San Steffan gael arwain unwaith eto. Ydi honno’n neges dda gan blaid sy’n arddel hunan-lywodraeth ac, weithiau, annibyniaeth.
Mi fyddai symudiad o’r fath yn creu dadlau o fewn ei phlaid ei hun; y dewis arall fyddai fod un o’r Aelodau Cynulliad eraill uchelgeisiol sydd ganddi yn cymryd y swydd … er y byddai ambell un, falle, yn falch o’r cyfle, pa ddylanwad fyddai gan Leanne Wood wedyn yn San Steffan?
Yn drydydd, yn groes i’w chymeriad hi, mae’n cyfleu neges anffodus braidd am weddill ei phlaid ei hun – mai hi ydi’r unig un a all wneud argraff.
Hyd yn oed pe bai’r dacteg yn gweithio yn yr etholiad yma, mae oblygiadau gwirioneddol cwestiynau o’r fath am aros yn llawer hwy.
A’r pethau arwynebol…
Mae yna gwestiynau mwy arwynebol hefyd.
Be’n union fyddai’r neges i bobol y Rhondda? Fod Leanne Wood yn eu cymryd o ddifri’, neu’n barod i’w defnyddio nhw? Mae blas chwarae gwleidyddiaeth ar y syniad.
Beth petai hi’n ennill ac yn ildio’i sedd yn y Cynulliad ar ôl dim ond blwyddyn? Ai’r gambl ydi y byddai Llafur wedi gwanhau digon i golli isetholiad i’r Cynulliad hefyd? Gambl a allai golli sedd a cholli dylanwad pellach ym Mae Caerdydd.
Pe bai Leanne Wood yn ennill ac yn un o bedwar, falle bump, o ASau Plaid Cymru yn San Steffan, faint o ddylanwad fyddai ganddi? A fyddai ganddi well llwyfan felly na thrwy fod yn arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad?
A beth petai hi’n colli? Fymryn yn well neu waeth nag ennill?