Nigel Farage, cyn-arweinydd UKIP (Llun y blaid)
Mae gan arweinydd newydd UKIP chwech wythnos i brofi ei hun yn gymwys ar gyfer y swydd, meddai Nigel Farage.
Mae’r cyn-arweinydd wedi addo “gweithio’n agos” a “chefnogi’n llawn” ei olynydd… gan ddweud y bydd canlyniadau’r etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8 yn dangos os oes gan Paul Nuttall y sgiliau angenrheidiol i arwain y blaid.
O’i ran ef ei hun, meddai, dydi o ddim eto wedi penderfynu p’un a fydd yn sefyll neu beidio am un o seddau San Steffan… ond mae’n mynnu oe bai’n penderfynu rhoi ei enw ymlaen, y byddai’n ennill.
“Dw i’n credu y baswn i’n ennill, ydw,” meddai ar raglen Today ar Radio 4.
Mae arweinyddiaeth Paul Nuttall wedi dod dan y lach oherwydd brwydrau mewnol yn y blaid, ynghyd â’i fethiant ef ei hun yn is-etholiad Stoke-on-Trent.
“Mae ganddo chwech wythnos i’w brofi ei hun, does?” meddai Nigel Farage. “Mae hi mor syml â hynny.”