Mae beicio i’r gwaith yn medru haneru’r risg o ddatblygu canser a problemau ar y galon, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl ymchwil Prifysgol Glasgow, mae seiclo i’r gwaith yn lleihau’r risg o ddatblygu canser o 45%, a phroblemau cardiofasgwlaidd o 46%.
Gwnaeth yr arolwg o 267,337 o bobol hefyd ddarganfod bod pobol sydd yn seiclo i’r gwaith yn 41% llai tebygol o farw yn ifanc.
Mae’n debyg bod cerdded i’r gwaith yn gallu lleihau’r risg o ddatblygu problemau ar y galon rywfaint, ond nid yw’n lleihau’r risg o ddatblygu canser na marw’n ifanc.
“O fewn cyrraedd pawb”
“Mae’n oll bwysig ein bod yn gwneud ymarfer corff yn haws a’n sicrhau ei fod o fewn cyrraedd pawb, os ydym am leihau’r baich o afiechydon sydd yn cael eu hachosi gan anactifedd,” meddai Cyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol Sefydliad Prydeinig y Galon, Dr Mike Knapton.
“Dylai awdurdodau lleol a gweithleoedd gefnogi hyn trwy sicrhau bod defnyddio dulliau actif o gyrraedd y gweithle yn opsiwn hawdd.”