Guto Ifan
Trethi sy’n mynd â sylw Guto Ifan cyn etholiadau’r Cynulliad…

Mae polisïau treth pleidiau’r Alban wedi amlygu fel mater mwyaf blaenllaw’r etholiad yno eleni, yn sgil y datganoli sylweddol o bwerau trethi sydd ar fin digwydd.

Mae Cymru ychydig ar ei hôl hi yn nhermau datganoli cyllidol, a does dim cynlluniau ar hyn o bryd i weld cymaint o ddatganoli ag yn yr Alban.

Er hynny, ymhen ychydig flynyddoedd, fe fydd gan Lywodraeth Cymru hefyd bwerau sylweddol dros drethi a chyllid.

Am y tro cyntaf felly, mae maniffestos y pleidiau ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn cynnwys cryn dipyn o sylw i bolisïau treth, ac er na fydd y dadleuon mor fywiog ag yn yr Alban, mae yna ddigon i gnoi cil drosto.

Polisïau’r maniffestos

Thema amlwg yn y maniffestos eleni yw diwygio neu ostwng trethi busnes, treth gafodd ei ddatganoli’n llawn llynedd ac sy’n codi tua £900m yn flynyddol.

Mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru am weld fwy o gwmnïau bychain yn cael rhyddhad trethi busnes, ac mae maniffesto’r Blaid Lafur hefyd yn sôn am dorri trethi busnesau bach.

Mae yna resymau da dros wneud hyn, ond mi fyddai’n golygu codi llai o refeniw. Bydd y rhyddhad trethi busnesau bach presennol gwerth tua £100 miliwn eleni.

Mi fydd addewidion y pleidiau yn debygol o gynyddu’r gost yma yn sylweddol, felly mi fydd angen ystyried effaith hyn ar gyllideb y llywodraeth.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae trethi cyngor yng Nghymru wedi bod yn cynyddu yn gynt nag yn Lloegr a’r Alban, wrth i Lywodraeth Cymru ganiatáu i gynghorau lleol eu codi.

Mewn ymateb i hyn, mae’r Ceidwadwyr yn addo atal cynnydd mewn treth cyngor ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bwriad y Democratiaid Rhyddfrydol yw gostwng treth cyngor i dai sydd yn gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

O dan y system dreth cyngor presennol, mae cartrefi tlawd yn talu llawer mwy fel siâr o’u hincwm na chartrefi cyfoethocach. Nod Plaid Cymru fyddai diwygio’r system dreth cyngor i leihau taliadau o dai â gwerth isel, a chynnig rhyddhad i rai ar incwm isel.

O 2018, fe fydd gan Lywodraeth Cymru hefyd reolaeth dros y dreth stamp. Mae’r Ceidwadwyr am sicrhau fod pob prynwr tro-cyntaf ddim yn talu’r dreth ar unrhyw dŷ gwerth llai na £250,000. Byddai hyn yn doriad treth i tua 45% i brynwr tro-cyntaf.

Cynllun Plaid Cymru fyddai codi trothwy talu treth stamp o £125,000 i £145,000, fel bod hanner o brynwyr tai yng Nghymru ddim yn talu’r dreth o gwbl.

Treth incwm – codi neu ostwng?

Yn yr Alban, polisïau ar dreth incwm, sydd yn cael ei ddatganoli bron yn llawn y flwyddyn nesaf, sydd wedi denu fwyaf o sylw yn yr etholiad.

Bydd unrhyw newid mewn polisi treth incwm yn amrywio cyllideb yr Alban yn sylweddol. Hefyd, mae treth incwm yn dreth ‘weledol’ iawn, sy’n golygu bydd pawb rhywfaint yn ymwybodol o effaith y polisïau arnyn nhw.

Yn sgil hyn, mae pob plaid wedi gorfod amlinellu’r hyn fyddent yn ei wneud gyda’r pwerau newydd.

Rhywbryd yn ystod y Cynulliad nesaf fe fydd treth incwm yn cael ei ddatganoli’n rhannol i Gymru hefyd, fydd yn galluogi’r llywodraeth i amrywio cyfraddau treth incwm.

Ond o’i gymharu â’r Alban, mae diffyg amserlen bendant a diffyg manylion ar sut fydd y system newydd yn gweithio wedi rhwystro trafodaeth lawn ar bolisïau treth incwm yn yr etholiad yma.

Er hynny, mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi y byddent yn edrych i dorri cyfraddau treth, gan awgrymu toriad o 2% i’r gyfradd sylfaenol, a 5% i’r gyfradd uwch. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd am leihau trethi i’r rhai ar incwm isel neu ganolig rhywbryd yn y dyfodol.

Er y bydd llawer yn cymeradwyo newid o’r fath, bydd yn rhaid ystyried y gall gwariant Llywodraeth Cymru gwympo’n sylweddol. Mae yna hefyd ddadleuon pwysig i’w cael ar effaith anflaengar torri cyfraddau treth incwm; y dosbarth canol fydd yn elwa fwyaf.

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi addo peidio codi cyfraddau treth incwm yn ystod y Cynulliad nesaf.

Edrych i’r dyfodol

Yn y dyfodol, bydd maint cyllideb Llywodraeth Cymru yn rhannol ddibynnol ar bolisïau treth y Llywodraeth.

Bydd modd defnyddio’r pwerau trethi i gefnogi amcanion polisi, a bydd gan Lywodraeth Cymru fwy o effaith uniongyrchol ar bocedi etholwyr.

Felly, mae’r drafodaeth ddechreuol yng Nghymru eleni, a phrofiad diweddar yr Alban, yn rhoi cipolwg ar elfen fydd yn siŵr o hawlio mwy o sylw yn etholiadau’r dyfodol.

Yn y cyfamser, mae’n bosib y bydd polisïau treth yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw drafodaethau ffurfio llywodraeth (p’un ai llywodraeth glymblaid neu leiafrifol) wedi’r etholiad.

Bydd unrhyw blaid leiafrifol yn awyddus o allu pwyntio at bolisi treth amlwg roeddent yn gallu ‘ennill’ yn y trafodaethau.

Cafwyd enghraifft o hyn ar lefel Brydeinig yn 2010, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol sicrhau codiad yn lwfans personol treth incwm.

Ond efallai fod yna rhybudd yn yr enghraifft yma nad y blaid leiafrifol fydd bob tro yn cael y clod yn y pendraw…

Mae Guto Ifan yn Gynorthwyydd Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.