Banc bwyd Llun: Ymddiriedolaeth Trussell
Fe fydd y cynllun sy’n cynnig talebau ynni ar gyfer pobol sy’n defnyddio banciau bwyd yn y Deyrnas Unedig yn cael ei ymestyn at ddeg ardal newydd yn ystod y misoedd nesaf.
Un o’r ardaloedd hynny yw Caerdydd, lle gall pobol sydd eisoes yn defnyddio’r Banc Bwyd yno fanteisio ar dalebau ynni hefyd.
Bwriad y cynllun yw cynorthwyo pobol sy’n gorfod penderfynu rhwng bwyta a chadw’n gynnes, ac fe gafodd ei dreialu am dri mis yn Lloegr y llynedd.
‘Gwahaniaeth mawr’
Mae pobol sy’n cael eu cyfeirio at fanciau bwyd, ac sy’n defnyddio mesuryddion talu o flaen llaw, yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Mae elusennau a mudiadau fel National Energy Action (NEA) wedi bod yn cydweithio â NPower er mwyn gweithredu’r cynllun sy’n cynnig talebau gwerth £30 tan ddiwedd mis Hydref, gyda’r swm yn codi i £49 yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn ôl Prif Weithredwr NEA, Jenny Saunders, mae’r talebau ynni wedi gwneud “gwahaniaeth mawr i deuluoedd” yn yr ardaloedd peilot.
“Roedden nhw’n helpu teuluoedd gyda’u cyllideb cartref ehangach hefyd ac yn rhyddhau straen a phryder gan sicrhau eu bod yn medru cael y pethau sylfaenol mewn bywyd teuluol – sy’n aml yn cael eu cymryd yn ganiataol gan nifer.”