Wrth i filoedd o feddygon iau yn Lloegr gynnal streic, mae cadeirydd y pwyllgor meddygon iau yng Nghymru wedi dweud bod y cytundebau newydd sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Prydain yn “ymosodiad arnom ni gyd”.
Dywedodd Dr Bethan Roberts, fod meddygon yng Nghymru yn “sefyll gyda meddygon yn Lloegr.”
Am y tro cyntaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd, bydd meddygon iau yn streicio a hynny heb gynnig gwasanaethau mewn achosion brys.
Mae’r meddygon yn ymgyrchu yn erbyn telerau newydd i’w cytundebau gwaith a fyddai’n golygu eu bod yn cael eu talu llai am weithio dros benwythnosau.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt wedi apelio ar y meddygon i beidio atal gofal mewn achosion brys, gan ddweud y bydd yn peryglu cleifion mewn adrannau brys, ac unedau mamolaeth a gofal dwys.
‘Effeithio’r Gwasanaeth Iechyd yn ehangach’
Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) yng Nghymru wedi dweud y byddai’r cytundebau yn cael “effaith ar gynaliadwyedd ehangach y Gwasanaeth Iechyd yn y DU.”
“Ledled y DU, mae’r BMA am gael cytundeb sy’n deg i feddygon, yn ddiogel i gleifion ac yn diogelu dyfodol y Gwasanaeth Iechyd ymhobman,” meddai Dr Bethan Roberts.
“Mae gweithredoedd y Llywodraeth yn Lloegr yn ymosodiad arnom ni gyd.”
Dydy’r streic ddim yn effeithio ar Gymru gan mai’r Llywodraeth yma sy’n gyfrifol am gytundebau meddygon iau, a does dim bwriad ar hyn o bryd i gyflwyno cytundebau tebyg.
Mae streic y meddygon yn digwydd rhwng 8 y bore a 5 y prynhawn ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon.