Gorsaf bŵer Aberddawan Llun: Nigel Homer
Mae un o fudiadau amgylcheddol Cymru wedi rhybuddio y dylid cau gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg yn hytrach na’i addasu – oherwydd y llygredd mae’n ei gynhyrchu.

Daw sylwadau Cyfeillion y Ddaear ymysg adroddiadau fod cwmni RWE, sy’n berchen ar y safle yn Aberddawan, yn bwriadu israddio’r orsaf.

Mae pwerdy glo Aberddawan wedi bod yn gweithredu ers 45 mlynedd, ac mae’n medru cynhyrchu 1555MW o drydan i’r Grid Cenedlaethol gan gyflogi tua 600 o weithwyr.

Ond, yn ddiweddar, bu Llys Cyfiawnder Ewrop yn ystyried honiadau bod yr orsaf bŵer yn torri rheolau o ran allyriadau.

Am hynny, mae’r cwmni’n bwriadu addasu’r safle o fewn y blynyddoedd nesaf gan anelu at leihau’r allyriadau o 30%.

‘Gwneud mwy’

Ond, mae Cyfeillion y Ddaear yn galw am wneud mwy, ac maen nhw’n rhybuddio fod cau’r orsaf yn “anochel”.

“Mae’r llygredd gwenwynig sy’n tyrru o simdde’r pwerdy yn golygu bod yn rhaid atgyweirio’r orsaf i leddfu’r niwed i iechyd cyhoeddus a’r amgylchedd,” meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i wario’n helaeth ar bwerdy 45-oed sy’n dod at ddiwedd ei oes. Rydym felly yn disgwyl i RWE gyhoeddi dyddiad am gau’r pwerdy o fewn y misoedd nesaf.”

‘Ailhyfforddi’

Yn ogystal, dywedodd Gareth Clubb fod Llywodraeth Cymru mewn “trwmgwsg parthed Aberddawan.

“Y llynedd, darganfyddom nad oedd y llywodraeth wedi cysylltu â’r cwmni ynghylch eu cynlluniau cau. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau rhaglen i ailhyfforddi’r gweithwyr byth ers inni ddarganfod nad ydy Cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod y mater.

“Mae angen gweithredwch gan Lywodraeth Cymru i alluogi’r gweithwyr i elwa o’r cyfleoedd lu sydd yn yr economi werdd,” ychwanegodd Gareth Clubb.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.