Gwaith dur Port Talbot Llun: PA
Fe fydd David Cameron yn ymweld â gweithfeydd dur Port Talbot heddiw wrth i’r trafodaethau am ddyfodol y safle barhau.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog siarad â phenaethiaid, undebau a staff y safle, a bydd hynny’n gyfle iddo “glywed eu safbwyntiau a thrafod y ffordd ymlaen,” meddai llefarydd ar ei ran.
Daw ei ymweliad wrth i gyfarwyddwr cwmni dur Tata geisio sicrhau prynwr ar gyfer eu busnesau yn y DU.
Fe gyhoeddodd y cwmni fis diwethaf y byddan nhw’n gwerthu eu hasedau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y safle dur ym Mhort Talbot, lle mae 4,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi cynnig pecyn o gefnogaeth gwerth cannoedd o filiynau ar amodau masnachol ar gyfer prynwyr posib i asedau Tata yn y DU.
Dyma ymweliad cyntaf y Prif Weinidog â’r safle, ac fe fydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ymuno ag ef heddiw.
Yn ôl y llefarydd, “mae’r Prif Weinidog wedi dweud drwy gydol yr amser ein bod am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur ym Mhort Talbot, ond dy’n ni ddim yn anwybyddu’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant dur yn y DU.”