Prif strategydd y Blaid Lafur yng Nghymru?
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar rai o ddigwyddiadau’r wythnos a fu…

Ydym deilwng?

Yn gorchfygu’r siom nad Huw Edwards oedd yn cyflwyno’r dathliadau Pen-blwydd (oni bai y cafodd ei le’n hwyrach – gallai’r ymchwil fod wedi bod yn fwy trylwyr ar y pwnc hwn), daeth Gyles Brandreth i achub y sylwebu gydag “it’s great to see so many young faces, and none of them have been forced to wave the flag”. Eitha’ reit, roedd y plant oll wedi rhedeg i’r siop i’w prynu, eraill wedi eu gweu eu hunain. “She is The Queen,” llewygodd, “and yet, and yet, here she is, mingling with us”.

Nid yw hon ar fap

Yw staff y Torïaid a Llafur i gyd yn newydd? ‘Mond gofyn gan fod darllediad Llafur yn fontage o David Cameron am y ddau funud cyntaf, affliw o ddim i’w wneud â’r etholiad na’r Cynulliad, tra bu i bamffled y Torïaid rybuddio’n groch i beidio pleidleisio am bum mlynedd arall dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Êl ar sgêl

Ansyfrdanol ar ryw ochr oedd ymbil Dafydd Êl, prif strategydd y blaid Lafur yng Nghymru, i’r plebs bleidleisio dros hen gyfaill Plaid Cymru, David Taylor, fel Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, dan yr esgus ei fod ofn UKIP i’r entrychion. A pha bynnag brofiad a doethineb Simon Wall, byddai’n arbennig i fod mor gymwys â David Taylor.

Pob pegwn

Wedi i bwyllgor gwaith Llafur wrthod £30,000 McDonalds am stondin yn eu cynhadledd daeth y Daily Politics â’r drafodaeth i’r cyhoedd gyda’r cydbwysedd anhepgor. Sef un Tori oedd yn methu deall pam y byddent yn atal McDonalds, ac un farwnes Llafur oedd yn methu deall pam y byddent yn atal McDonalds. Y sbectrwm gwleidyddol yn llawn yn y fan ‘na. Doeddent wir ddim yn deall o gwbl. A thrafodaeth wych gafwyd.

Ceiniogau glân groyw

Buddugoliaeth arall i ddemocratiaeth wrth i David Mackintosh (Ceidwadwyr, De Northampton) orfod datgan rhodd o £30,000 i’w ‘fighting fund’ gan gwmni o’r enw 1st Land Ltd. Mae 1st Land Ltd yn enwog yn lleol am feddu miliynau o arian gan y cyngor er mwyn y gwaith o wella stadiwm pêl-droed y dref, ond nid oes siw na miw o beiriant yn tanio ers blynyddoedd. Ond pam gebyst y byddent eisiau ariannu eu haelod i’r fath raddau? Pwy a ŵyr. Yn well fyth mi ddaeth yr arian drwy dri chwmni arall, ond lawnderiaeth ansafonol iawn ydoedd wrth i’r £10,000 gyrraedd un diwrnod a gadael am David y diwrnod canlynol. Wedi i’r stori ddod i’r fei roedd David am “inform Conservative Party headquarters of the BBC’s revelations”. Felly dyna ddiwedd y mater.

Rhwyg yn yr arian papur

Rhwyg anarferol yn San Steffan wrth i Unoliaethwyr Ulster a’r Ceidwadwyr bleidleisio’n gwbl groes. Y pwnc? Arian papur Cymreig. Pam? Byddai’r Unoliaethwyr yn ymddangos fel pe baen nhw yn gwrthwynebu eu harian unigryw eu hunain yn eu chwe sir. Mae’r Ceidwadwyr yn ffyddiog, neu ddim yn poeni, neu ddim yn cofio, na wnaiff gwrthwynebu’r cenedlaetholdeb hwn niweidio eu pleidlais ar y 5ed o Fai.

Arwydd o drwbwl

Y digwyddiadau:

1.Placardiau Plaid Cymru a Llafur yn sefyll fry ym Methel, ward y cynghorydd Llafur Siôn Jones.

2. Placardiau Plaid Cymru’n diflannu, rhai Llafur yn aros.

3. Cyfaill Siôn Jones yn gwatwar aelodau Plaid ar Twitter, gan gynnig gwerthu’r placardiau ar wefan arall.

4. Aelodau Plaid yn pendroni, am ryw reswm, os oedd gan y cyfaill rywbeth i’w wneud â’r mater, gan nodi na fyddai Siôn ei hun yn gwneud rhywbeth o’r fath.

5. Siôn Jones yn cyhuddo Plaid Cymru o ‘driciau brwnt’. Wel ia … efallai mai Plaid eu hunain ddymchwelodd yr arwyddion i wneud niwed i ymgyrch y fellten newydd. Cyfrwys!

Tŷ Cywiro

Daeth i’r fei fod gweithwyr anghyfreithlon yn adeiladu carchar siwperdiwper newydd megatonic Wrecsam. Berwyn yw ei enw. Y carchar, nid y gweithiwr penodol o’r Wcráin oedd ar lyfrau rhad ryw sybgontractwyr. Pwy fyddai’n disgwyl dim arall. Anodd deall pam crybwyll y stori yma a dweud y gwir. Ymddiheuriadau, ymlaen â ni a phob hwyl i Berwyn y Carchar. Berwyn y Carchar Mawr Coch.

A-ilenwi

A sôn am enwau, erfyniodd Carwyn Ein Harweinix ar bobol y gogledd i ddewis enw newydd ar yr A55. Byddai’n cyd-fynd â swydd newydd y lôn fel rhan o’r sbri o brofi gogledd Cymru i’r ymwelwyr. Gan y bydd hefyd yn fwy gwag wedi dyfodiad Metro Gogledd Cymru. Beth i’w alw? Colin? Colin y lon wag? Ynteu rywbeth o’r un anian ond mwy cyffrous, fel A99. Yw hwnnw wedi ei gymryd?

Brwydr dros y sied

O leiaf bydd siwrnai perchennog y sied yn llawer mwy o sbort. Y sied honno ar draeth Abersoch oedd ar ocsiwn yn Llundain i gychwyn ar £75,000 … dim ond am £153,000 yr aeth. Dau o Cheshire oedd yn gwrthod ildio. Anodd yw adio dim at y stori yma chwaith, ‘mond teimlad y dylid ei gofnodi a’i barchu.

Sith mae torri’r newyddion?

Aeth Gwil Gwalia a’i frawd Harri’r 9fed am drip i stiwdios Pinewood – y rhai yn Lloegr sy’n agored, nid y rhai yng Nghymru, a chael chwarae cleddyfau golau gan fod Star Wars arall yn cael ei ffilmio. Ni fedrir cadarnhau fod Gwilym wedi datgan mewn llais dwfn ar ganol yr ornest ‘Harri, nid oes ganddom yr un tad’.

Bîff wedes di?

Daeth y cyn-gricedwr Ian Botham â chri drydarol ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd. “England is an Island … remember that and be very proud to be English,” Henry V-iodd, yn dangos llai o sgil daearyddol nac yr oedd o flaen y wiced.