Cathays
Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig ar ferch 25 oed yng nghanol Caerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn fuan cyn dri o’r gloch y bore yma ar Ffordd Senghennydd yn ardal Cathays, sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr y brifddinas.
Mae ymholiadau’r heddlu’n parhau ac mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Daclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1600142305.
Ym mis Medi, digwyddodd tri ymosodiad rhyw yng nghanol y ddinas o fewn pum diwrnod i’w gilydd, gyda llawer beirniadu gyrwyr tacsis Caerdydd am wrthod mynd â phobol ar deithiau ‘rhy fyr’ yn hwyr y nos.