Bu Alan yn amddiffyn Dave yr wythnos hon
Hefin Jones sy’n bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…
Tawelu’r anwybodus
Ag yntau dan y fath bwysau, daeth penderfyniad Dai Cam i benodi Guto Bebb fel chwip i ffrwyth yr wythnos hon. Daeth William Hague i’r fei yn esbonio wrth y cyhoedd na fedrent ddisgwyl i’w gwleidyddion fod yn berffaith. Mwy na fedrwch ddisgwyl i’ch cigydd. A daeth Alan Duncan i ddatgan mai cenfigennus yw pawb sy’n meddwl y dylai Prif Weinidog sydd wedi arthio ar y tlawd i dalu eu trethi, dalu trethi gan anobeithio “they’ve no experience of the real world”. Bu i Alan hawlio £4,000 gan y trethdalwr i dalu am ei ardd, oedd yn cynnwys £41 ar drwsio teiar fflat ei dractor bach torri gwellt.
Brwydro dros y brodorion
Dyma Dominic Grieve yn estyn ei gleddyf. “If we’re going to destroy the economy of the British Virgin Islands because we prevent them from providing banking services at all then we’re going to destroy the livelihood of its inhabitants”, meddai. O’r diwedd, rhywun sy’n poeni am y brodorion. “They are entitled to make their own decisions in this,” chwifiodd yn arwrol dros ei phoblogaeth fach entrepreneuriol o 28,000, ond sydd yn cynnal pencadlys 100,000 o gwmnïau. A’u hiaith swyddogol yn Saesneg a’u hanthem yn ‘God Save the Queen’.
Cor ni off…
Daeth golygyddol y Daily Mail a’u pencadlys hwythau yn Bermuda i’r adwy hefyd. “After a week of hysteria driven by the politics of envy, David Cameron yesterday undertook the vital task of defending aspiration and wealth-creation,” dagreuont, ddeuddydd cyn glanio’r sgŵp anhygoel “CORBYN’S £3M IN PAY AND PERKS… Jeremy Corbyn has banked more than £3million in taxpayer-funded pay and pensions in 30 years,” datgelont, sef yr union faint fyddai unrhyw un yn ei gael wedi 30 mlynedd o fod yn Aelod Seneddol.
Gwynnach na Gwyn
Ergyd bellach i S4C wrth i ‘Siôn White’ ar Pobol y Cwm fynd yn rhy bell i’r Parchedig Irfon Roberts, sy’n rhannu ei gŵyn i’r gorfforaeth gyda chylchgrawn Golwg. “Mae eisiau i chi fynd yn bell iawn i chwilio am y math yna o Arweinydd Eglwys neu Weinidog,” esboniodd. “Dyma ddyn sydd wedi dwyn £20,000 o’i eglwys, cadw dryll yn ei eglwys, neidio o un gwely i’r llall. Dyw e ddim yn bortread real o gwbl”. Mr Roberts, os bydd S4C yn erfyn arnoch i gofio’r amserau da, pan nad oedd ‘Siôn White’ dan y fath bwysau, dwedwch wrthynt lle i ******* fynd.
Arwydd o drwbl
At Siôn llai dadleuol. Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn nrysau Ysbyty Gwynedd, llwyddiant arall i Siôn Jones wrth i’w gyfaill gynnig gwerthu placardiau Plaid Cymru a ddiflannodd ym Methel, sef ward y cynghorydd hynaws, cyn nodi’n hynod argyhoeddedig mai jôc ydoedd wedi’r cyfan. Un wych hefyd. Yn hytrach na derbyn y cynnig i gondemnio’r weithred, safodd Siôn yn gadarn a datgan y byddai’n well aros tan i’r heddlu gwblhau ymchwiliad, pe bai ymchwiliad cyffelyb yn digwydd…
Feak-er slei
Wedi iddo sylwi fod pobol Plaid Cymru’r ardal yn amau doethineb cynlluniau un o’i amryw gwmnïau i brynu chwarel a’i droi’n domen sbwriel, cafodd y Blaid nifer o alwadau gan Mathew Feakin yn eu brolio i’r entrychion a’n sicrhau ei fod am bleidleisio iddynt. Beth a wnaiff ei blaid arall pan glywan lle bydd yn rhoi ei dic ar 5 Mai? Canys penodwyd Mathew’n gynghorydd yn Nhrefynwy o dan ymbarél y Blaid Geidwadol ar 24 Mawrth.
I’r gad yn yr iard
Syndod yn yr ymgyrchu wrth i UKIP gyflwyno eu polisi o Gymru annibynnol, Neil Hamilton yn datgan: “I’m looking forward to taking on Plaid Cymru in their own backyard and explanining to people that UKIP are the real nationalist party of Wales”.
Doctor No
Mewn symudiad difyr arall mae UKIP hefyd yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon y tro hwn, ac yn creu argraff fel y disgwyl. Un sy’n sefyll yn y bwlch yw eu harweinydd David McNarry, a lwyddodd i ddatgan ar y radio y byddai’n cicio pob doctor o dramor, fel unrhyw dramorwr, o’r chwe sir am unrhyw drosedd fel derbyn dirwy parcio. Ni ddywedodd os fyddai hynny’n cynnwys Gwyddelod y 26 sir. Daeth ei ymddiheuriad (wel, beio’r cyflwynydd) yn hwyrach yn y prynhawn. Tîm Nigel wedi bod ar y ffôn dros y môr yn llai na hapus debyg.
Dwyn i gyfrif
“The Queen acts on the advice of ministers and remains strictly non-political at all times,” chwifiodd Her Royal Highness – wel, Jenny Vine, ei Deputy Correspondence Coordinator – wrth ateb llythyr bachgen 12 oed o Ddulyn yn dweud wrthi am roi Gogledd Iwerddon yn ôl. Yn union fel oedd hi ar drothwy refferendwm yr Alban.
Byw i weld diwrnod arall
Dihangfa lwcus i un rhinoseros wrth i aelodau o’r Teulu Brenhinol (dim angen nodi’r wlad, yn union fel y Premier League) gael cip arno a pheidio ei saethu. Er, ifanc ydyw, digon o amser iddo ddarganfod ei hun ar wal Wil Wêls, neu ei frawd, ei daid, nain, ewythrod neu fodrybedd.