Mae’r cyfnod ymgyrchu swyddogol yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain yn Ewrop wedi dechrau heddiw.

Materion iechyd fydd ar wefusau’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda disgwyl iddyn nhw gynnal cyfres o ralïau fel dechrau i’r ymgyrch.

Yn ôl ymgyrch Vote Leave, byddai’r £10.6 biliwn y mae gwledydd Prydain yn ei gyfrannu i’r Undeb Ewropeaidd yn gallu cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae sawl aelod o’r Blaid Geidwadol yn ymgyrchu dros adael yr Ewrop, ac y bydd y rhethreg hon ar y Gwasanaeth Iechyd yn debygol o roi David Cameron, sydd o hyd wedi amddiffyn perfformiad y llywodraeth ar iechyd, mewn sefyllfa anodd.

Dau aelod blaenllaw o’r ymgyrch i adael yw’r Torïaid – Maer Llundain, Boris Johnson a’r Gweinidog Cyfiawnder, Michael Gove, a fydd yn rhoi areithiau dros bleidlais Brexit ledled y wlad heddiw.